Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

| (figfaiil Ŵjgluipij. LLYFRAU Y BEIBL. NAHUM. Nahum yw y seithfed mewu trefn o'r Prophwydi Lleiaf. Am y prophwyd hwn nid oes rhagor o wybodaeth yn y Beibl uag a geir yn nechreu y llyfr. sef ei euw a lle ei enedigaeth—" Nahum yr Elcosiad." Ystyr y gair yw " dyddauwch." Yr oedd ef i Iwyth Judah yu Faruabas, yn " fab dyddanwch." Tybir mai pentref yn Galileaoedd Elco8. Dangosid ef i St. Jerome yn ei adfeilion fel lle genedigaeth y prophwyd Nahum. Tybir hefyd fod tref Capernaum wedi derbyn ei henw oddi wrtho Tybia ereill mai ar lan y Tigris. yn agos i Ninefeh. yroedd tref Elcos yu sefyll, a bod Nahum yn un o feibion y gaethlud pan y dygwyd y deg llwyth ymaith gan freuin Assyria. Mae yno dref o'r euw Alcush, a hen draddodiad mai ynddi y claddwyd Nahum. Mwy tebyg i'r caethion o Galilea sefydlu tref a'i galw yn ol enw yr hen bentref yng ugwlad eu genedigaeth. Nid oes sicrwydd yng nghylch yr oes yr oedd yn byw ac yn prophwydo. Diammheu ei fod yn byw ar ol i "No dylwythog," Thebes, dinas fawr yn yr Aipht, gael ei dinystrio gan frenin Assyria. Tybir fod cyfeiriad yn niwedd y bennod gyntaf at ddyfodiad Sennacherib yn erbyn Jerusalem, a bod y prophwyd, ar ol caethgludiad y deg llwyth, wedi symmud o Galilea i dir Judah, a'i fod yn llygad-dyst o'r gwisgnedd ysgarlad, o swn yr olwynion, o'r march yn prancio, a'r cerbyd yn neidio. Os felly, yr oedd yn byw yn amser y brenin Hesecíah, o ddeutu 720 cyn Crist. Cenadwri Nahum oedd " Baich Niuefeh." Mae ef yn cysuro pobl yr Arglwydd trwy ragfynegu dinystr eu gelynion, drylliad Assyria, a chwymp Ninefeh. Cafodd le '239 — Tachwedd. 1886.