Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

| filsfaill (Bjlujyaig. LLYFRAU Y BEIBL. MICHAH Yr oedd y prophwyd Micbah yn oydoesi ag Esaiah ac Hosea, ac efe a brophwydodd yD nyddiau Jotham, Ahas, ac Heseciah, breniuoedd Judah. Yr oedd yn byw o ddeutu saitli gaut a hanuer o íiynyddoedd cyn Crist. Bernir iddo barb.au i ddysgu a rhyhuddio Israel a Judah am hanuer cau mlynedd. Dyddiau drwg oedd dyddiau Ahas; brenin drwg oedd Ahas. Efe a dynodd ei fab trwy y tân yn ol ffieidd-dra y ceuedloedd Yr oedd Israel a Judah wedi cefnu ar Arglwydd Dduw eu tadau, ac wedi myued ar ol duwiau dyeithr ac eilunoà mudion. Mae hyn yn taflu goleuni ar eiriau tanllyd y prophwyd. Genedigol ydoedd o Moreseth Gath, pentref ar ymyl gwlad y Philistiaid. Yr oedd yr enw yn un cyffredin ym mhlith yr Hebreaid, a'i ystyr yw. " Pwy sydd fel yr Ar- glwydd?" Yr enw yn gyflawn yw Michaiah, ond nid yr un gwr oedd Michah y Moresthiad a Michaiah mab Imla. Yr oedd yr olaf yn byw gan mlynedd o'i flaeu ef. Dywed St. Jerome iddo gael ei gladdu ym Moreseth, a bod Eg- lwys Gristionogol wedi cael ei chodi ar ei fedd. Efe a brophwydodd yn erbyn Samaria a Jerusalem, ac a ragfynegodd ddyfodiad Salmaneser yn erbyn y naill, a Sennacherib yn erbyn y lla.ll, a llwyr ddiuystr Jerusalem. Llefarodd eiriau heilltion yn erbyn y penaethiaid a roddent farn er gwobr, a'r offeiriaid a ddysgent er cyflog, a'r prophwydi a ddewiueut er arian. Dyfynir ei eiriau yn Llyfr Jeremîah, "Am hyny, o'ch achos chwi yr erddir Sion fel maes, a Jerusalem a fydd yn garneddau, a mynydd y tŷ fel uchel leoedd y goedwig." Efe a ragfynegodd hefyd aro gwymp Assyria, a dinystr tir Nimrod, a dychw^eliad y genedl etholedig o wlad eu caethiwed, a theyrnas y 238—Hydref, 1886.