Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

LLYFRAU Y BEIBL. JONAH. Yr oedd Jonah yn un o'r rhai boreuaf ac yn uu o'r rhaî hynotaf o'r holl brophwydi. Mae ei lyfr yn un o'r rhai rhyfeddaf o lyfrau y prophwydi. Tybia rhai o'r Rabbin- iaid Iuddewig mai mab y wraig weddw o Sarepta, yr hwn a gyfododd Élias o feirw, oedd Jonah; tra y tybia ereill mai mab y Sunammëes ydoedd, yr hwn a adferodd Elisëus i fywyd. Y cwbl a wyddys am dano a welir yn ei lyfr ei hun ac yn 2 Bren. xiv. 25. Mab ydoedd i Amittai 0 Gath-Hepber, yn Zabulon, yn Galilea. Yr ydoedd yn byw yn amser Jeroboam yr Ail, o ddeutu wyth cant i wyth cant a hanner o flynyddoedd cyn Crist. Er ei fod yn brophwyd i'r Arglwydd nid oedd yn wr perffaith. Efe a wnaeth anufuddhau i Hduw a grwgnach yn erbyn Duw. Dywedodd un ei bod yn fwy o wyrth i ras fyw yng nghalon Jonah nag i Jouah fyw ym mol v morfil Nis gwyddom pa uu ai cyn myned neu wedi dyfod yn 01 o Ninefeh y prophwydodd efe am Jeroboam yn helaethu terfynau Israel. Mae rhai yn barnu iddo farw yu Niuefeh, eithr tebyg mai y traddodiad mwyaf cywir ydyw iddo ddychwelyd a gorphen ei yrfa, a chael ei gladdu ym meddrod ei dadau yn Gath- Hepher. Deugys y Mahomet- iaid ei fedd y dydd hwn o dan un o'u temlau yu Gath- Hepher. Ceidw y Groegiaid wy] er coffadwriaeth am ei enw ar yr 21fed o Fedi Prif geuadwri Jouah oedd at y Ninefeaid. Y waith gyntaf yr archodd Duw iddo fyned i Ninefeh efe a wrth- ododd ufuddhau. Efe a aeth i waered i lan y môr i Joppa, ac a gymmerodd long i fyned i Tarsis—Tarsis yn Yspaen neu Tarsis yn Cilicia—oddi ger brou yr Arglwydd, megys pe na bai Duw Israel â'i lywodraeth yn cyrhaedd mor bell 237—Medi, 1886.