Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

| <$lîaîll ŵjglujpig. LLYFRAU Y BETBL. OBADIAH. Nis gwyddora ddim ym mhellach na'n dysgir yn y llyfr sydd yu dwyn ei enw. Nid yw y llyfr ond byr, dim rhagor nag un bennod. Mae amrywiaeth barn yng nghylch yr amser yr oedd y prophwyd hwn yn byw. Y mae hyn yn dibynu ar yr esboniad a roddir i'r unfed adnod ar ddeg, lle y cyfeiria at Jerusalem wedi ei gorch- fygu. Gorchfygwyd y ddinas gan Sisac, brenin yr Aipht, yn araser Rehoboam. Gorchfygwyd hi gan y Philistiaid a'r Arabiaid yn amser Jehoram. Gorchfygwyd hi gan Joas, yn amser Amasîah. Gorchfygwyd a chaethglud- wyd hi gan y Caldeaid, yn amser Jehoiacim a Jehoiacin. Tebyg mai at yr olaf y cyfeiria y prophwyd. Os felly, yr oedd ef yn prophwydo o ddeutu 585 cyn Crist, ac yn cydoesi â Jeremiah. Baich ei brophwydoliaeth yw ceryddu yr Edomiaid am eu ereulonder tuag at yr Israeliaid, a bygwth barn Duw yn eu herbyn. Yr oedd plant Edom a phlant Israel yn berthynásau agos i'w ifilydd. Yr oedd y naill yn disgyn o Esau, a'r lleill yn disgyn o Jacob. Fel y niae yn aml, os na fydd oyd-dylwyth yn gyfeiliiou, tebyg y byddant yn ddynion chwerwon i'w gilydd. Felly yr oedd teimlad Edom tuag at Israel. Dylasent gydymdeimlo a chyn- northwyo meibion brawd eu tad yn nydd eucyfyngder; yn lle hyny yr oeddynt wedi gorfoleddu yng nghwymp Jerusalem, a llawenychu yn ei hadfyd. Yr oeddynt wedi tnyned mor bell a dringo i fyny i'r ddiuas fel un o'i gelyn- ion i'w anrheithio hi, ac wedi dal yn gaeth y rhai oeddynt yn ffoi allan o honi am eu hsinioes. At hyn yr awgryma y Salmydd pan y dywed, "Cofia, Arglwydd, blant Edom 236—Áwst, 1886.