Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

| ^gfaill (Ôfllirpig. LLYFRAU Y BEIBL. AMOS. Nid yr un gwr yw Aniosy prophwyd ag Amos, tad y pro- phwyd Esai. Ystyr y gair Amos yw baich. Yn Tecoa, dinas fechan yn Judah, a chwe milltir i'r de o Bethlehem, yr ydoedd yn byw. Bugail a chasglydd ffigys gwylltion oeid wrth ei alwedigaeth. Efe a ddywed nad oedd na phrophwyd ua mab i brophwyd; hyny yw. nid oedd wedi ei ddwyn i fyny yn un o ysgolion y prophwydi. Er mai yn Judah yr oedd wedi cael ei eni a'i fagu, eto pan ddaeth ysbryd prophwydoliaeth arno danfonodd yr Arglwydd ef i deyrnas Israel. Yr oedd llawer o gau bro- phwydi yn Israel, ac y mae'r Arglwydd o'i drugaredd yu danfon gwir brophwyd i'w mysg, fel y clywent air yr Ar- glwydd. Yr oedd yn byw yn nyddiau Uzzíah. brenin Judah, ac yn nyddiau Jeroboam, mab Joas, brenin Israel. Yr oedd hyn o ddeutu 800 rolynedd cyn Crist. Dechreu- odd ar waith y weinidogaeth ddwy flynedd o flaen j daiargryn. Mae Zechariah ddau can mlynedd ar ol hyn (xiv. 5) yn cyfeirio at y ddaiargryn, "A ffowch fel y ffoi- soch rhag y ddaiargryn yn nyddiau Uzzîah, brenin Judah." Yr oedd, mewn rhan, yn cydoesi â Hosea, ond bu Hosea fyw ac yn prophwydo ar ol ei ddydd ef. Yr oedd cyflwr crefyddol Judah ac Israel, Sîon aSamaria, yn dra isel yn eì amser ef. 0 herwydd eu nerth a'u cyf- oeth a'u diogelwch yr oeddynt wedi anghofio yr Arglwydd eu Duw, a myned ar ol duwiau dyeithr. Gorweddent ar welyau ifori, ymestynent ar eu glythau, a bwytaent yr ŵyu o'r praidd, ac yfent mewn ffiolau. Sathrent y tlawd, ac adeiladent iddynt eu hunaiu dai o geryg nadd. Yr oedd addoliad yr Arglwydd a'r dydd Sabbath wedi myned 235—Gorphenaf, 1886.