Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

LLYFRAU Y BETBL. JOEU Nii» yw Llyfr Joel ond un byr. yn cynnwys tair pennod. Joel. un â Jehofah yn Dduw iddo, oedd ei awdwr. Ni cheir dim o'i haues personol ym mhellach na'i fod yn fab Betuuel. Tybir nmi yn Jerusalem yr oedd yn cartrefu. Yr oedd yn un o'r prophwydi cyntaf. os uad y cyntaf, o'r rhai sydd wedi gadaeî ysgrifeniadau ar eu hol. Gan nad yw yn son am y Syriaid, na'r Assyriaid. na'r Babiloniaid, ym mhlith gelynion Israel, bernir ei fod yn byw yn foreu iawn yn amser y brenin Joas, o ddeutu 850 cyn Crist. Efe a sonia am Tyrus a Sidon, yr Aipht ac Edom, ond dim am Niuefeh a Babilou. Mae ei lais at Judah, megys ag y mae llais Hosea yn benaf at y deg llwyth. Mae ei ddysgrifiadau yn farddonol. ei iaith yn goeth, ei eiriau yn eglur, a'i frawddegau yn rhedeg yn llyfn a llithrig. Yr oedd y genedl wedi cefnu ar ei Duw, ac wedi ymroddi i win lawer, " Doffröwch, feddwyr, ac wylwch; ac udwch, holl yfwyr gwin, am y gwin uewydd." Mae barn ar ddisgyn ar y wlad, barn ddeuddyblyg, sychder, a phla o loeustiaid, a hyny am amryw flynyddau. Yr oedd y coedydd yn llesgäu, yr yd yu gwywo, y porfèydd yn llosgi, yr anifeiliaid yu griddfan o eisieu gwlaw. Yr oedd y lindy» a'r locust yn troi gardd yr Arglwydd yn anialwch. Dywedir am y lindys, y ceiliog rhedyn, y locust, a phryf y rhwd, mai pedwar math o locustiaid oeddynt. Defnyddir pedwar gair gwahanol yn yr iaith wreiddiol, un yn dangos eu gwancu8rwydd, y llall eu hamldra, y lla.ll y modd y llyfent wellt y maes, y llall y difrod o wnaent. Wrth y "^gwŷr mawr a chryfion," yn yr ail bennod, ma« rhai esbonwyr yn deall, pla y locustiaid, tra y mae ereill 234—Mehefin, 1886.