Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

| <$íJfaUl ŵjgîujpig. LLYFRAU Y BETBL. HOSEA. Llífr Hosea ydyw y blaeoaf o lyfrau y deuddeg prophwyd, y rhai a elwir y Prophwvdi Lîeiaf. Yr oedd mewn rhan yn cydoesi ag Esai. ond yr oedd wedi dechreu prophwydo o flaeu y prophwyd efeugylaidd. Mae yu ammbëus pa ud ai ef, tieu Joel, neu Amos. oedd y cyntaf o'r holl bro- phwydi sydd wedi gadael ysgrifeniadau ar eu hol. Ni wyddom ddim am hanes Hosea ym mhellach na'r hyn a roddir i ni am dano yn nechreu ei lyfr Yma ni a gawn iddo brophwydo yn nyddiau Uzziah, Jotham. Ahaz, a Hezecîab, breninoedd Judah, ac yn nyddiau Jeroboam fab Joas, brenin Israel. 0 flynyddau olaf Jeroboam, 785 cyn Crist, hyd flynyddau blaenaf Hezecîab, 725. yr oedd cyfnod o drigain rolynedd; felly efe a barhaodd i weinidogaethu am yr amser maith o drigain mljnedd. ac ef allai yn bwy na hyny. Rhoddir enw ei dad, Beeri, ac enw ei wraig. Gomer, ac enwau ei dri phlentyn, Jezreel, Lo-Ruhamah, a Lo-Ammi. Gan mai wrth y deg llwyth y mae efe yn llefaru yn benaf, bernir mai yn uheyrnas Israel yr oedd ef yn byw, i lwyth Ephraim yr oedd yn perthyn, ac mai at y deg llwyth yr oedd yr Arglwydd wedi ei ddanfou. Yn ei amser ef yr oedd y deg llwyth wedi dirywio yn fawr—wredi myned yn dra lîygredig, wedi cilio oddi wrth yr Arglwydd, a myned ar ol duwiau ac eilunod y Cenedloedd. Yn lle ymddiried yn Nuw eu tadau. yr oedd rhai am ddi- byuu ar Assyria, ac ereill am bwys» ar yr Aipht. Yr oedd Ephraim fel.colomen ynfyd heb galon, yn galw ar yr Aipht, ac yn myned i Assyria. yn gwnenthur ammod â'r Assyriaid, ao yn dwyn olew i'r Aipht. M^e r prophwyd5 vn codi ei lais yn erbyn pechod Israel. y pechod neilldoo 233—Afai, 1886.