Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

1 <$ífaiU êjlwptg, LLYFRAU Y BEIBL. DANIEL. Sonir am dri Daniel yu yr Hen Destament, sef Daniel fab Dafydd frenin, Dauiel fab Ithamar yr offeiriad. a Daniel y prophwyd. awdwr y llyfr sydd yn dwyn ei enw. Ystyr y gair yw barnwr dros Dduw. Yr oedd Daniel, yng nghyd â'i dri chyfaill, Hananîah, MÌBael, ac Azarîah, ym mhlith y rhai cyntaf a ddygwyd yn gaeth i Babilon yn y drydedd flwyddyn o deyrnasiad Jehoiacim, brenin Judah, 606 C.O. Yr oeddynt yn deg yr olwg, ac yn ddeallgar ym mhob doethineb, ac o'r had breninol. Nid oedd Daniel ond dyn ieuanc y pryd hwn; yn ol tyb rhai, ddim drcs ddeunaw oed. Barna ereill mai o ddeutu pymtheg ydoedd. Nid oes sicrwydd am ei oedran. Un peth sydd sicr, ei fod yn ddyn ieuanc duwiol. Er mor ddrwg a llygredig oedd Jerusalem yr amser hwnw yr oedd ynddi rai bechgyn yn ofni Duw ac yn cilio oddi wrth ddrygioni. Rhoddodd Daniel brawf ar unwaith ei fod wedi cael ei feithrin yn addysg yr Arglwydd. Pan ddewiswyd ef a'i gyfeillion i gaèl eu dysgu am dair blynedd a chael eu maethu oddi ar fwrdd ỳ brenin, efe a wrthododd y bwyd a'r gwin, rhag iddo gael ei halogi â bwyd aflan a phethau wedi eu haberthu i eilunod. Gwell ganddo fyw ar ffa a dwfr, ac ar y bwyd hwn yr oedd ei wedd yn decach ac yn dewach o gnawd na'r bechgyn a borthid â bwyd y brenin Mae rhyw debygolrwydd rhwng Daniel yn Babilon a Joseph.yn yr Aipht. Dechreuodd ý ddau eu bywyd mewri gwlad ddyeithr fel eaethweision. Dángosodd y ddau eu bod yn ofni Duẃ^ dringodd y dd*u i'r aùthydedd ucháf trwy ddeongli breüddwydion, a bod yn ffyddlawn, a dir 332—Ebrill, 1886