Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

I ^ífaiil ŵjluipig. LLYFRAÜ Y BEIBL. ESECIEL. Oelwir Esaiah "y Prophwyd Efengylaidd,' Jeremiah "y Prophwyd Wylofus," ao Eseoel '* y Prophwyd Tanllyd." Yr oedd Jeremiah, Eseciel a Daniel mewn rhan yti cyd- oesi. Yr oedd Eseciel, fel Jeremiah, yn offeiriad ac yn brophwyd. Mab ydoedd i Buzi, ac ystyr ei euw yw nerth Duw Dygwyd ef i gaethiwed, yog nghyd â Jehoiacin, brenin Judah. a deng mil o'r trigoliou, yn y flwyddyn 598 C.C. Yr oedd hyn wyth mlynedd ar oì caethiwed Daniel a'r Tri Llanc, ac un mlyuedd ar ddeg cyn dinystrip Jerusalem a'r deml. 0 amser caethgludiad Daniel (606 O.C ) y cyfrifir y deng mlynedd a thrigain. Gosodwyd Ëseciel a miloedd y gaethglud ar lan afon Chehar Tybir yn awr mai camlas fawr oedd yr afon Chebar, ger llaw Babilon, ac nid yr afonChabour. yr hon sydd yn ymar- llwys i'r afon Ewphrates rhyw ddau can milltir yu uwch i fyny na'r brifddinas. Gwaith priodol i'r caethion oedd cloddio y gamlas, ac yno y crogasant eu telynau ar yr helyg. ac yr wylasant. pan feddyliasant am S'iou. Yr oedd Eseciel yn wr priod, ac yn byw yn ei dŷ ei hun. Cym- merwyd ei wraig oddi wrtho â dyrnod, ac nid oedd ef i wylo ar ei hol. Galwyd ef i brophwydo yn y bummed flwyddyn o gaethgludiad y breuin Jehoiacin, ac yn y ddegfed flwydd- yu ar hugain o'i oedran, medd rhai; er pan esgynodd Nobopolassar, tad Nebuchodonosor, i'r orsedd, medd ereill. Ar lan afon Chebar daeth gair yr Arglwydd ato, a bu llaw yr Arglwydd arno. Parhaodd yn, ei swydd am ddwy flynedd ar hugain, a dichon yn hwy na hyny; ond yr hanes diweddaf a rydd am dano ei hun sydd yn y 231 —Materth, 1886.