Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

1 ^sfaill (Bgluiaaifl. LLYFRAU Y BEIBL. JBRBMIAH. Jeremiah (," wedi ©i ddyrchafu gao yr Arglwydd ") ydyw awdwr y llyfr sydd yn dwyn ei enw. Mab Heloiah ydoedd, wedi ei eni a'i ddwyn i fyny yn Anathoth, tref rhyw dair milltir o Jerusaleni. Yr oedd yn offeiriad ac yn brophwyd. Galwyd ef i brophwydo pan yn fachgen. Yr oedd wedi ei sancteiddio cyn iddo ddyfod o'r.groth. Dechreuodd ar ei waith fel prophwyd yn y drydedd flwyddyn ar ddeg o deyrnasiad y brenin duwiol Josiah. Parhaodd yn ei swydd am ddwy flynedd a deugain, hyd y caethgludiad i Babilon, sef o'r flwyddyn cyn Crist 628 hyd 586. Felly efe a fu yn dysgu ac yn rhybuddio Judah yn amser Josiah, a Joahas, a Joachim, a Joachin, a Zedeciah, breninoedd Judah. Yr oedd yn ffyddlawn dros Dduw ac yn ffyddlawn i'w genedl, ac yn wylo drostynt. Cafodd flinderau lawer yn ei fywyd, a bu dan erlidig- aethau trymion. Dygwyd ef i Tapanhes yn yr Aipht, a hyny yn erbyn ei ewyllys. Dyna'r hanes diweddaf a geir am dano. Mae hen draddodiad yn aros iddo gael ei labyddio â meini gan ei genedl ei hun yn Tapanhes, o herwydd iddo eu ceryddu am eu cyndynrwydd. Mae traddodiad arall iddo ddianc yn ol i Judea neu i Babilon a marw mewn heddwch mewn oedran teg. Baruch oedd ei ysgrifenydd, ac yr oedd Sephaniah y prophwyd, a Hul- dah y brophwydes. mewn rhan yncydoesi ag ef. Yn ei amser ef yr oedd rhyfel rhwng brenin Babilon a brenin yr Aipht Yr oedd Judea rhwng y ddwy wlad. Yr oedd penaethiaid yr Iuddewon am wneyd cynghrair â Pharaoh, a Jeremiah am iddynt roddi eu hunaiu dan nawdd Nebuchodonosor. Yr oedd yr olaf wedi ei godi i 230—Chwefror, 1886.