Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

'aill ŵjlflgaij. LLYFRAU Y BEIBL. Y SALMAUi ' Dywbd yr Iesu fod yn rhaid cyflawnu pob peth a ysgrifen- wyd yng nghyfraith Moses, a'r Prophwydi, a'r Salmau am dano Ef. Sant Luc xxiv. 44. Mae hyn yn dangos fod yr Hen Destament yn cael ei ranu gan yr Iuddewon yn dair rhan. Yn y rhan farddonol, Llyfr y Salmau oedd y prif lyfr, er fod Llyfrau Job, y Diarebion, y Pregethwr, a Chaniad Solomon yn cael eu dosbaifthu gyda'r rhan hon. Llyfr y Salmau oedd Uyfr gweddi a llyfr hymnau yr Eglwys Iuddewig. Y Salmau eto^ i raddau helaeth, ỳw llyfr gweddî a llyfr hymnau yr Eglwys Gristionogol. Gel- wir y Salmau yn gyffredin yn " Salmau Dafydd," yr un fath ag y priodolir pob hymn felus i Wiîliams o Bant y Celyn. Dafydd, y bugail, y brenin, a'r bardd oedd awdwr y rhan amlaf, ©nd nid yr oll o honynt. Yr oedd ef yn enwog am ei ganiadau at wasanaeth y cyssegr, a gelwir ef gan awdwr Ail Lyfr Samuel yn "beraidd ganiedydd Israel." Priodolir rhai o'r Salmau i Moaes, i Asaph, i Ethan, i Heman, í Jeduthun, i Solomon, i Feibion Corah, i Jere- mîah, ac i Eara. Mae yn eglur fod rhai o honynt wedi cael eu canu yn amser ac ar ol y caethiwed yn Babylom. Felly y maent yn gasgliad o hymnau gan wahanol awdwyr am fil o flynyddoedd—o ddyddiau Moses hyd ddyddiau Nehemîab. Ar y dechreu yr oeddynt yn bum llyfr. Felly y maént wedi eu trefnu yn y Beibl Hebraeg ac yng nghyfieithad y Deg a Thrigain. Y llyfr oyntaf, o'r Salm 1 hyd y 41, wedi ei ysgrifenu ym mron i gyd a'i gasglu gan Dafydd. Yr ail Ŵ 42 i'r 7%, casgliad amser Efesecmh. Y trydydd o'r 225—Medi, 1885.