Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

íîfaiH ŵfllîügaig. LLYFRAU Y BEIBL. JOB 0 barth i Job a'r Hyfr sydd yn dwyn ei enw mae llawer o amrywiaetb barn—yng nghylch ei berson, ei wlad, ei amser, ac awduraeth y llyfr Ystyr y gair Job yw un a erlidiwyd, Yr oedd yn berson gwirioueddol, o herwydd mae Eseciel yn son am dano yr un fath ag am Noah a Daniel, ac y mae St. íago yn crybwyll am amynedd Job. Yr oedd yn byw yng ngwlad Us, sef gwlad Edom, medd rhai, tra y dywed ereill ei fod yn fwy i'r dwyrain, ac heb fod ym mhell o'r afon fawr Ewphrates. Gelwir Job yn un o feibion y dwyrain, ac yn un o'r mwyaf o honynt. Tebyg i'r wlad gael yr enw oddi wrth Us, mab Aram, mab Sem. Tybia rhai fod Job yn gydoeswr â Moses pan oedd Moses yn Midian; tybia ereill ei fod yn byw yn yr un amser ag Isaac neu ag Abraham. Barna Dr. Hales ei fod yn byw 184 ml. cyn geni Abraham. ac efe a sylfaena ei farn ar seryddiaeth, trwy y planedau y sonir am danynt. Mae ei oedran, sef cant a deugain o flynyddoedd ar ol ei gystuddiau, yn profi ei fod yu byw mor fore, os nad yn foreuach nag Abraham. Gan fod ganddo ddeg o blant rhaid ei fod o drigain i ddeg a thrigain oed cyn dechreu ei brofedigaethau. Nid oes un cyfeiriad yn yr holl lyfr at waredigaeth plant Israel, nac at eu caethiwed, nac am Abraham, Isaac, a Jacob, nac hyd yn oed at ddinystr Sodom a Gomorrah. Mae hyn yn profi hynafiaeth yr hanes. Pan yn darllen Llyfr Job gallwn fod yn dra sicr ein bod yn darllen y llyfr henaf yn y byd. i, Er fod rhai o'r farn mai Moses oedd awdwr^y liyfr, ereill mai Elihu a'i hysgrifenodd, y dyb gywiraf yw mai 224—Áwst, 1885,