Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

| ÖpgfaiII ŵfiluipig. LLYFRAÜ Y BEIBL. E8THBB. Bbrnie mai Mordecai a ysgrifenodd Lyfr Esther, ac o ran amser yn hanes cenedl Israel, y hyddai yn ei le priodol rhwng y chwechfed a'r seithfed bennod o Lyfr Esra, ac o ddeutu 460 hyd 450 cyn Crist. Hhaid fod yr awdwr yn un ag oedd yn hollol hysbys o arferion a manylion palas brenin Persia. Bernir hefyd iddo gael ei ysgrifenu er mwyn ei osod yn Llyfr Gronicl breninoedd Mediaa Persia, ac mai dyna y rheswm na enwir enw Duw Israel ynddo o'i ddechreu i'w ddiwedd. Gelwir ef yn ol enw Esther am mai ei hanes hi yn benaf a geir ynddo. Un o ferched y gaethglud oedd hi, merch Abihail o lwyth Benjamin, a chyfnither i Mordecai, merch amddifad, heb dad na mam, ac yr oedd Mordecai wedi ei ohymmeryd hi yn ferch iddo ei hun. Ei henw Hebraeg oedd Hadassah, ei henw Persiaeg oedd EBther (seren). Mae aunryw dybiau yng nghylch pa un o freoinoedd Persia oedd Ahasferus. Tybia rhai mai Cambysu, rhai mai Darius Wyetorfer, rhai mai Darius Nothus. Dywed Josephus mai A.rtaxerxes Longimanus ydoedd. Amcan y llyfr yw dangos gofal Duw am ei bobl mewn cyfyngder. Mae Haman ddrygionus, er mwyn cael Mordecai o'r fFordd, yn cynllunio pa fodd i ddyfetha yr holl genedl. Mae Duw yn trefnu ymwared iddynt trwy law Mordecai ac Esther. Os na welir enw Duw yn y llyfr mae ei law Ef i'w chanfod yn dra amlwg trwyddo. Gellir rhanu Llyfr Esther yn bedair rhan. Y cyntaf, yn dangos y modd y collodd Fasti fiFafr y brenin, ac y trowyd hi o'r neilldu. Yr ail, yn dangos y modd y cafodd Esther, trwy degwch ei ^phryd, ei dewis i fod yn wraig i'r brenin a'i êlàodi o fbd jo gaethes i fod yn frenines. Y drydedd, 223—Gorphenaf, 1885.