Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

8 (lílaill ©g 1 ujusig. LLYFRAU Y BEIBL. NEHBMIAH. Ye oedd Nehemîah, awdwr y llyfr hwn, yn un o feibion y gaethglud, ac yn un o ragorolion y ddaiar. Yr oedd yn wr duwiol a doeth, yn wladgarwr gwresog, ac yn barod i aberthu pob peth er tnwyn ei genedl a'i grefydd. Gelwir ef y " Tirsatha," hyny yw, Llywydd. Nid yr un ydoedd efe a'r Nehemîah a ddychwelodd o'r caethiwed gyda Soro- babel. Ni wyddir pa bryd y cymmerwyd ef i gaethiwed, na pha amser na pha le y bu efe farw. Y dyb gyffredin yw iddo fyned yn ol yr ail waith i Persia a marw yno. Yn y flwyddyn 440 C.C. yr oedd efe ym mhalas y brenin Artaxerxes yn Susan. Yr oedd gan freninoedd Persia bedwar palasdy—un yn Eebatana, yn yr haf; un yn Babilon, yn y gwanwyn; un yn Persepolis, yn yr hyd- ref; un yn Susan, yn y gauaf. Pan oedd Nehemîah ym mhalasdy Susan, daetb Hanani a gwŷr ereill o Judah, ac a fynegasant iddo am adfyd yr Iuddewon yn yr hen wlad, a bod mur Jerusalem yn ddrylliau, a'i phyrth wedi eu Uosgi â thân. Efe a deimlodd yn ddwys o herwydd blin- der ei bobl a chyflwr gresynus hen ddinas beddrod ei dadau. Yn yr ugeinfed flwyddyn o'i deyrnasiad, gwelodd y brenin ei fod mewn gofid, ac wedi cael gwybod yr achos o'i dTÌstwch efe a roddes ganiatâd iddo fyned i ymweled â'i bobl, yng nghyd â llythyrau yn gorchymmyn i'r tywys- ögion í'w ddiogelu ar y ffordd a'i gynnorthwyo yn y gwaith o gyweirio muriau Jerusalem. Hanes ei lywyddiaeth a*i waith a roddir i ni yn y llyfr. Yb y BeiMau Gròeg a Lladin gelwir y llyfr yn Ail LyFr Ësra, ám ei fod yn barhâd ó'r hanèi?'à roddir yn Lryír Esra. Mae esbẅírwyr yn cytuno fod 'îfëhymîah wedi bod ddwy waith yuJJerusalem, er hyny mae aínrywiáeth barn 222—Mehefin, 1885,