Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

| <$8Jfaill (gjlmpig. LLYFRAÜ Y BEIBL. ESRA Esra oedd awdwr y llyfr sydd yu dwyn ei enw, oddi eithr y beunod gyntaf, yr hon a ysgrifenwyd, fel y tybir, gan Daniel, a'r ail bennod, yr hon a ysgrifenwyd gan Nehe- m'iah. OfFeiriad oedd Esra, ac ysgrifenydd cyfiyni yng ughyfraith Moses. Cafodd ei eni yn Babilon; driugodd i ddylanwad gan frenin Persia, a chafodd genad i ddyfod ddwywaith i ymweìed â'i bobl yn Judah a Jerusalem. Y waith gyntaf cyn amser Nehemiah; yr ail waith yn amser Nehemîah. Dywed Josephus iddo farw mewn henaint teg, a chael ei gladdu yn anrhydeddus yn Jerusalem; tra y mae traddodiad arall iddo farw ar lan yr afon Tigris, ar ei ffordd yn ol o Jerusalem at frenin Persia. Cymmerodd Nebuchodouosor Jerusalem yn 606 c.c. Y pryd hyn y cymmerwyd Daniel a'r tri llanc i gaethiwed. O'r fiwyddyn hon y cyfrifir y deng mlynedd a thrigain, yn ol prophwydoliaeth Jeremiah. Yn 536 y rhoddodd Cyrus, brenin Persia, ganiatâd i'r Tuddewon ddychwelyd i'w gwlad eu hun. Daeth hanner can mil o honynt yn eu hol yr amser hwnw, o dan arweiniad Sorobabel a Jesua. Yn y flwyddyn 458 c.c. cafodd Esra gániatâd gan Aitaxerxes i ymladd â'i bobl, a chymmeryd gydag ef gyn- nifer o bobl Israel a ewyllysient fyned i Jerusalem, ac o ofFeiriaid a Lefiaid a chantorion a phorthorion a Nethiniaid. Buont bedwar mis ar eu taith. Ỳm mheu tair blynedd ar ddeg ar ol hyn cafodd Nehemîah yr un ffafr gan yr un brenin. Aeth o ddeutu chwe mil i fyny o Babilon dan dywysiad Esra. Yn Ilyfr Esra ceir hanes y genedl am o ddeutu pedwar ugain mlynedd, sef hanes eu dychweliad yn amser Cyrus; ail sefydlu yr aberthau; adeiladu y dernl; y rhwystrau i fyned ym mlaen â'r gwaith, o herwydd gelyniaeth y Sam- 221— Mai, 1885,