Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

LLYFRAÜ Y BEIBL. Y ORONICLAU. Yn yr hen Feibl Hebraeg yr oedd dau lyfr y Cronicl yu im. Gelwid ef " Geiriau y Dyddiau," sef Dyddiadur. Eu teitlau gan y Deg a Thrigain ydynt, " Pethau wedi eu gadael allan," hyny yw, pethau wedi eu gadael allan yn Llyfrau Samuel a Breninoedd, a buddiol fyddai eu darllen a!u cymbaru â'r llyfrau blaenorol. Ierom oedd y cyntaf a'u galwodd yn ol eu teitl presennol. Mae hyn o wahaniaeth rhyngddynt a Llyfrau y Brenin- oedd; ni cheir ynddynt hanes breninoedd Israel ar ol ymraniad y deyrnas i Israel a Iwdah. Yr oedd y deg llwyth wedi myned i gaethiwed ac heb ddychwelyd, ac yr oedd y bobl gymmysg. sef teyrnas Samaria, wedi dyfod yn elynion i Iwdah a Beniamin. Casgliad neu grynodeb yw y ddau lyfr o ddyddiaduron ag oeddynt ar gael yr amser yr ysgrifenwyd hwynt, megys llyfrau Samuel y Gweledydd, a Nathan y Prophwyd, a Gad y Gweledydd, Gweledigaethau Ido y Gweledydd, Pro- phwydoliaeth Ahiah y Seloniad, Geiriau y Gweledyddion, Gweledigaeth Esaiah y Prophwyd, a Llyfr Breninoedd Iwdah ac Israel. Nid aml y meddylir fod cynnifer o hen goflyfrau yn bodoli yr amser hwnw. Bernir mai Esra yr offeiriad oedd awdwr y ddau lyfr. Mae rhywbeth yn debyg yn yr iaith i Lyfr Esra. Yn y llinacbau yn y llyfr cyntaf, ceir braslun a gyfnod maith o 3468 o fìynyddau— o Adda hyd Esra. Yr oedd llinach llwythau Israel yn werthfawr i'r Iuddewon ar ol eu dyfodiad yn ol o Babilon. ac yn gynahorth i bob teulu gael gafael yn etifeddiaeth eu tadau. Mae amry w hanesion byr a dyddorol wedi eu dodi i mewn yn gymmysg â'r Hinachau. Maent yn werth eu darllen. Nid enwau sychion ywr cwbl. 220—Ebrül, 1885.