Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

| (fgfätll ijlîopij. LLYFftAU î BEIBL. BHENINOEDD. Mae dau Lyfr y Breninoedd, y cyntaf a'r ail. Un oédd- ynt yn y Beibl Hebraeg, eithr rhanwyd y llyfr yn ddau gan y Deg a Thrigain, a gelwid ef yn drydydd a phedwer- ydd Llyfr y Breninoedd. Yn y llyfr cyntaf ceir hanes cyfnod o chwech ugain a chwech o fìynyddau, sef o flwyddyn olaf Dafydd, 1015 C.C., hyd farwolaeth Iehosa- phat, sef hanes bradwriaeth Adon'íah, marwolaeth Dafydd, teyrnasiad Solomon, adeiladiad y deml, ymraniad y Deg Llwyth, sefydliad y ddwy deyrnas (Israel a Iwdah), bren- inoedd Israel a Iwdah, hyd ddiwedd oes Iebosaphat a rhan o fywyd Elias. Yn yr ail lyfr ceir hanes cyfnod o dri chan mlynedd, o farwolaeth lehosaphat hyd y caethiwed yn Babilon, dinystr Ierwsalem, a llosgi y deml. Felly mae cyfnod y ddau lyfr dros bedwar can mlynedd—cyfnod cyhŷd ag o ddechreu teyrnasiad Harri yr Wythfed hyd y dydd hwn. Cofnodir ynddo esgyniad Elias, gweithredoedd Elisëus, teyrnasiad breninoeddd Israel a Iwdah hyd gaethgludiad y Deg Llwyth i Assyria, a breniooedd Iwdah hyd y caeth- gludiad i Babylon. Bernir mai Ieremiah oedd awdwr y ddau lyfr. Yr oedd ef yn cydoesi â Iosíah, breniu Iwdah, ac efe a fu fyw hyd ddygiad Ierwsalem i gaethiwed. Efe a ysgrifenodd yr hyn a welodd yn ystod ei oes ei hun. Rhanau blaenorol y llyfrau, efe a'u casglodd o'r llyfrau y cyfeirid atynt o bryd i bryd, megys, " Onid ydynt hwy yn ysgrifenedig yn Uyfr gweithredoedd Solomon í" " Wele hwynt yn ysgrif- enedig yn Llyfr Cronicl Breninoedd Israel ?" " Ouid ydynt nwy yn ysgrifenedig yn Llyfr Cronicl Breninoedd Iwdah?" Gweîir cyfeiriadau mynych yn y Testament Newydd at yr hyn a adroddir yn y ddau lyfr dan sylw, megys at 219—Mawrth, 1885.