Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

i <$îíaill ŴfllwB»ifi. Y FLWYDDYN 1885. Beth fydd y flwyddyn 1885? Mewn ystyr gyffredin hi a fydd yn debyg i'r blynyddoedd a fu o'i blaeD, yn wleid- yddol. yn fasnachol, yn Eglwysig, yn grefyddcl; bydd yn frith fel blynyddoedd ereill. Un mis wedi ei wisgo ag eira, mis arall wedi ei addurno â blodau; un mis wedi ei rwymo â rhew, mis arall wedi ei lw^tho â llawnder. Rhai yn marw, a rhai yn cael eu geni; rhai yn eu gorfoledd, a rhai yn eu galar; rhai mewn hawddfyd, a rhai mewn adfyd. Yr hyn a fu a fydd: nid oes dim newydd dan haul. Er hyny, gall y fiwjddyn fod i ui yn bersonol yn wahanol iawn i unrhyw flwyddyn a welsom hyd yn hyn. Mae rhai wedi ei dechreu hi mewn dagrau ac ereill mewn llawenydd. Bydded i'r rhai sydd lawen fod yn gymmedrol yu eu llawenydd, cauys ni wyddaut beth a ddygwydd cyn ei diwedd. Gall fod wedi ei ysgrifenu ar gyfer ein henw, " 0 fewn y flwyddyn hon y byddi farw." Os ydym am fod yn well eleui Ba llynedd—yn fwy duwiol a defnyddiol, yn fwy cymhwys i fyw, mwy parod i farw, mwy addfed i'r nef—cofiwn y pum peth canlynol. 1. Cofiwn am Lyfr Duw. Rhodd ei ddeheulaw ydyw, mae yn ein hiaith, yn ein tai, yn ein dwylaw. Na adäwn ef yn debyg i'r Beibl a welodd Rowland Hill, â digon o lwch ar ei glawr i ysgrifenu â bysygair 'damnedigaeth'arno. Darllenwu ef. Darllenwn ran o hono, pe bai ond un adnod, bob dydd o'r flwyddyn. Darllenwn ef yn bwjllog, yn fanwl, yn ystyriol. Dengys y ffordd i ni fyw, y ffordd i ni farw. Mae yn abl i'n gwneuthur ni yn ddoeth i iaohawdwriaeth. Darllenwn ran o hono bob dydd. 2. Cofìwn am orsedd Duw—"gorseddfainc y gras." Awn ati, a phlygẁn o'i blaen bob boreu a bob nos mewn gweddi ac mçwn mawl. Os awn ati dair gwaith, ie, 217—lonaw, 1885.