Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

(ÇîJfHíII ŴglNJJBtjg. IEÜENCTYD Y BEIBL. " Y BACHGEN IBSÜ." " Yr Iesu a groeshoeliwyd ar fynydd Calfari, Fu gynt yn blentyn egwan, mor fychan a myfi: Holl ddeddf ei Dad a gadwodd, o'i le ni wyrodd gam, A rhoddodd, yn ddibechod, ufudd-dod pur i'w fam." Fel yr oedd y dyn Crist Iesu yn esampl i'r dyn, felly yr oedd y bachgen Iesu yn esampl i'r plentyn. Ychydig sydd wedi ei roddi i ni o'i baues fel bachgen, ond y mae yr ychydig hyny yn werthfawr. Ni a gawn ei hanes pan yn faban, y fìwyddyn gyntaf o'i oes, am ei enedigaeth ym Methlehem o'r Forwyn Fair ei fam, am ei enwaediad yn wyth niwrnod oed, am ei gyfìwyuiad yn y demi yn ddeu- gain niwrnod oed. am ei ffoad i'r Aipht, ac am ei ddy- chweliad i Nasareth. Dywedir wrthym am yr angel yn dyfod i fynegu ei fod wedi ei eni; am y côr angylaidd yn canu anthem ei enedigaeth; am y bugeiliaid yn dyfod i'w weled yu y preseb, ac yn myned yn ol gan ogoneddu Duw; am y doethion yn dyfod o'r Dwyrain, dan arweiniad seren, ac ynei addoli, ac yn offrymu anrhegion iddo; am Simeon yn ei gymmeryd yn ei freichiau, ac yn canu cân-ei ymad- awiad ei hun; am Anna y brophwydes yn moliannu yr Arglwydd. Yr oll a ddywedir am dano ar ol ei ddychwel- iad i Nasareth, hyd yn ddeuddeg oed, ydyw, "A'r bachgen a gynuyddodd, ac a gryf haodd yn yr Ysbryd, yn gyfiawn o ddoethineb; a gras Duw oedd arno Ef." Yr oedd, fel plant ereill, yn bwyta, yn yfed, yn tyfu, yn chwareu, yn chwerthin. yn wylo, yn dysgu, yn rhedeg ar negesau dros ei fam, ond yr oedd yn blentyn heb bechod; ni wnaeth ddrwg, ac ni ddaeth gair drwg o'i eneu erioed. Pan yn ddeuddeg oed, dywedir wrthym iddo fyned i fyny i Ierwsalem ar wyl y Pasc gyda'i fam, a cbyda Ioseph 21 G—Ehagfyr, 1884.