Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

| fîfaill ŵjluipifl. IEUENCTYD Y BEIBL. MAB 8EL0MITH. Ni a gawn hanes mab Selomith yn y bedwaredd bennod ar hugain o Lefiticus. Yr wyf yn ei ddwyn ef ger bron darllenwyr ieuainc y Cyfaill, nid er esampl i'w dilyn, ond er rhybudd i'w ochelyd. Pwy ydoedd efe? Mab i wr o'r Aipht ydoedd. Ni roddir enw ei dad. Gwraig o Israel oedd ei fam, a'i henw Selomith, merch Dibri, o lwyth Dan. Yr oedd yn perthyn i'r bobl gymmysg hyny a ddaethant allan o'r Aipht gyda phlant Israel, a'r rhai a fuont yn fagl ac yn rhwystr iddynt ar y ffordd. Ei freintiau. Yr oedd wedi gweled y rhyfeddodau a'r pläu yn yr Aipht: hollti y Môr Coch, gwlawio y manna o'r nefoedd, rhoddi y Ddeddf ar Sinai, tynu y dwfr o'r graig. Yr oedd ganddo Israeles yn fam, ac wedi ei faga ym mysg pobl yr Arglwydd. Da fyddai i bob dyn ieuanc gofio ei freintiau crefyddol, ei fod wedi ei eni yng Nghymrtç fod Gair Duw yn ei ddwyìaw, a thy Dduw yn ei ymyl. Yn ol manteision dyn mae ei gyfrifoldeb. Ei bechod. Y dechreuad oedd ymryson â gwr o Israel yn y gwersyll; achos y gynhen ni roddir. Dywed hen draddodiad Iuddedig fod mab Selomith am gael gwersyllu gyda llwyth Dan, ac i wr o lwyth Dan ei wrthwynebu, gan ddywedyd nad oedd iddo ran na chyfran ym mhlith Uwythau Israel, am mai Aiphtwr oedd ei dad. Wrth ymryson a phoethi, efe a aeth i gablu enw Arglwydd Dduw Israel, a melltigo. Braidd oedd llais yr udgorn wedi dyatewi, "Na chymmer enw yr Arglwydd dy Dduw yn olfer," cyn fod y gwr hwn yn tori allan i gablu. Mae ymryson a chweryía eto yn fynych yn arwain i dyngn a rhegu a chablu. Mae hwn yn bechod uchel yn ein gwlad. 215—Tachwedd, 1884.