Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

IEUENCTYD Y BEIBL. DANIEL A'R TRI LLANC. Ni fynegir i ni ond y peth nesaf i ddim am dymmor ieu- enctyd y tri Uane. Rhaid i ni edrych ar foreuddydd eu hoes yng ngoleu fflam y ffwrn dân. Yng ngoleu hon ni a welwn eu hegwyddor, eu eymmeriad, eu hymddiried yn eu Duw, eu ffyddlondeb i'w crefydd. Rhaid fod yr eg- wyddor wedi ei phlanu, a'r cymmeriadau wedi eu ffurfio pan oeddynt ieuainc yn ninas eu genedigaeth. Yn y flwyddyn 369 ar ol ymneillduaeth y deg llwyth, ac yn y flwyddyn 606 cyn Crist, ac yn y drydedd flwyddyn o deyrnasiad loacim, brenin Iwdah, y daeth Nebuchodon- osor, brenin Babilon, i Ierwsalem, ac a warchaeodd arni, ac a'i gorchfygodd hi. Efe a ddug ymaith ran o lestri ty Dduw, a rwymodd Ioacim mewn cadwynau i'w ddwyn ef i Babilon, ond efe a'i gollyngodd ef yn rhydd, a chafodd farw yn ei wlad ei hun, eithr â chladdedigaeth asyu y oladdwyd ef. Dug brenin Babilon amryw o fechgyn Ierwsalem, o'r had breninol, i gaethiwed, fel y tybir, yn wystlou, y gwnai Ioacim gadw ammodau yr heddwch. Hon oedd y flwyddyn gyntaf o'r caethiwed, ac o'r flwyddyn hon y decbreuir cyfrif y deng mlynedd a thrigain. Ym mhlith y bechgyn a ddygwyd i gaethiwed y waith hon yr oedd Daniel, a Hananiah, a Misael, ac Asarîah. Y pedwar hyn a ddewisodd Aspenaz i gael eu cyfar- wyddo a'u hyfforddi, ac i ddysgu iaith y Caldeaid, fel y byddent gymhwys i sefyll yn Uys y brenin. Gorchym- mynodd y breniu am roddi bwyd a gwin iddynt oddi ar ei fwrdd ei hun i'w maethu hwynt am dair blynedd. Dyma'r brofedigaeth gyntaf. Yn awr yr oeddynt yn Babilon, yng nghanol estroniaid, ym mhlith eilunaddolwyr. 214—Hydref, 1884.