Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

| (ttJaiII ŵjglmpifl. IEUENCTYD Y BEIBL. SAMUBL. Plentyn a roddwyd gan Dduw mewn atebiad i weddi oedd Samuel. Efe oedd y diweddaf o'r Barnwyr. Efe oedd y cyntaf o linell hir o brophwydi. Efe a eneiniodd y brenin cyntaf ar Israel. Enw ei dad oedd Elcanah. Enw ei fam oedd Hannah. Yr oedd gan Elcanah ddwy wraig, Hannah a Peninnah. I Peninnah yr oedd meibion a merched, ond i Hannah nid oedd plant. Yn chwerwder ei henaid, aeth Hannah at yr Arglwydd ac a weddîodd arno am roddi mab iddi. Rhoddodd yr Arglwydd ei dymuniad iddi. Pan anwyd y plentyn, hi a alwodd ei enw ef Samuel, hyny yw, un a ddymunwyd gan yr Arglwydd. Plentyn o gyssegrwyd i'r Arglwydd trwy weddi oedd Samuel. Yr oedd Hannah wedi gwneuthur adduned i'r Arglwydd, os y rhoddai Efe fab iddi, y rhoddai hithau ef yn ol i'r Arglwydd holl ddyddiau ei einioes . Efe a gai fod yn Nazaread i Dduw heb i un ellyn ddyfod ar ei ben ef. Wedi iddi gael atebiad i'w gweddi, nid anghofiodd Hannah ei hadduned. Mae llawer yn addunedu ac nid ydynt byth yn talu. Nid felly mam Samuel: yn union wedi iddi ei ddiddyfnú hi a'i dug ef i Shiloh ac a'i cyflwynodd ef i'r Arglwydd. A hi a weddîodd ac a ddywedodd, " Lîawenychodd fy nghalon yn yr Arglwydd." Plentyn a ddysgwyd i weddio yn fore oedd Samuel. Gweddi oedd un o'r gwersi cyntaf a gafodd. Y peth cyntaf a ddarllenwn am dano ar ol ei ddwyn o Ramah i Shiloh, o'r aelwyd gartref i'r tabernacl, yw, "Ac efe a addolodd yr Arglwydd yno." Mae pob plentyn wedi gweled y darlun o Samuel bach ar ei liniau, â'i ddwylaw yng nghyd, ŷn gweddîo. Ac y mae llawer plentyn wedi teimlo chwarit gweddîo wrth edrych ar y darlun hwnw. Gwyn fyd y 213—Medi, 1884.