Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

1 ítfaill (gjluipifl. IEUENCTYD Y BEIBL. IOSIAH. Rhoddie i ni ychydig o hanes Ios'iah pan ydoedd yn faohgen. Ni a gawn ei enw. enw ei dad, enw ei fam, ei oedran, ei swydd, a'i gymmeriad. Nid yw yn fy mwriad i ddilyn ei hanes ym mhellach na deunaw oed, y modd y teyrnasodd ef ar Iwdah, a'r modd y bu farw ym Megido. Ni chafodd Iosîah y fraint o gael tad duwiol. Enw ei dad oedd Amon, ac efe a wnaeth yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr Arglwydd. Mae plant weithiau yn waeth na'u rhieni, ac weithiau yn well. Yr oedd Hesecîah yn ddyn da, er fod Ahas ei dad yn ddyn drwg. Yr oedd Manasseh mab Heseciah yn ddyn drwg. Os oedd mam Iosiah, Iedidah, "anwylyd yr Arglwydd," yn ateb i'w henw, yr oedd ganddo fam dda: nid pob uu sydd yn ateb i'w enw. Mae Uawer Dafydd, a Ioan, a Timothy, ag enwau da arnynt, ond wedi troi allan yn gymmeriadau digon drwg. Dywedir am amryw o freninoedd Israel a Iwdah, " Ac enw ei fam ef" oedd hyn neu arall, megys yn awgrymu fod gan y fam law neillduol yn ffurfiad ei gymmeriad. Dylanwad y fam yw'r cryfaf, am mai hi yw athrawes gyntaf y plentyn. Iaith gyntaf pob plentyn yw iaith ei fam. "Ac enw ei fam ef oedd Iedidah, merch Adaiah o Boscath." Wyth mlwydd oed oedd efe pan fu ei dad farw, ac er ei fod mor ieuanc efe a eneiniwyd yn frenin ar Iwdah. Heb law ei fam, yr oedd ganddo ddynion doeth a da i'w addysgu a'i hyfforddi, sef Saphan yr ysgrifenydd, a Hilcîah yr archoffeiriad, ac ereill, y rhai oeddynt yn ofni yr Arglwydd. Mae yn beth tra phwysig i bob dyn pwy yw ei athrawon, a'i gynghorwyr, a'i gyfeillion ym moreuddydd ei oes. 212—Awst, 1884.