Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

i ílfaill Ẃflliüfiaig. IEUENCTYD Y BEIBL. BENIAMIN. Beniamin oedd yr ieueugaf o ddeuddeg meibion Iacob. Ni roddir i ni ddim o hanes ei ieueuctyd, er hyny yr ydym yn casglu ei fod yn fachgen da. Pan oedd Iacob a'i deulu ar eu taith o Bethel i Ephrath, ac o fewn ychydig ffordd i'r lle olaf, daeth awr Rahel i esgor, a bu galed arni wrth esgor. Dywedodd y fydwraig wrthi am gymmeryd cysur, o blegid fod mab wedi dyfod iddi. Hithau, cyn tynu yr auadl olaf, a alwodd ei enw ef Benoni, hyny yw, mab fy ngalar. Yr oedd genedigaeth y bachgen wedi bod yn achos o farwolaeth i'w fam; ond galwodd ei dad ef Beniamin, mab deheulaw. Yr ydym yn cael ar ol hyn fod ei dad yn hoff iawn o Beniamin, a bod Ioseph, ei frawd o'r un fam, yn ei anwylo. Oddi wrth hyu yr ydym yn casglu nad oedd ei dad wedi cael ei siomi ynddo, ond ei fod wedi troi allan yn Beniamin yo wir, mab ei ddeheulaw. mab ei gysur a'i lawenydd. Yr oedd wedi bod yn fachgen ufudd i'w dad. Mae pob plentyn uaill ai yn Beniamiu neu yn Benoui, yn achos o orfoledd neu yn achos o ofid i'w rhieni. Yr oedd bachgen a'i enw Alfred, uuig fab ei fam. Yr oedd ei dad wedi rnarw pan oedd ef yn faban. Yr oedd ganddo fam dyner, siriol, a duwiol, ond yn wan ei hiechyd. Yr oedd bi yu boff iawn o Alfred, ac Alfred yn hoff iawn o honi hithau. Efe a aetb i'r Ysgol Sul oedd yn y dref, a dechreuodd bechgyn yr ysgol chwerthin am ei ben ef, a galw "babi bach" arno; na wnai ef ddim heb ofyn cenad i'w fam, ac nad ai ef ddim i unmau heb gydio yn llinyn ffedog ei fam. 0 dipyn i beth, er mwyn bod yn ddyn mawr, dechreuodd Alfred ddweyd " Na, na," wrth ei fam, yr hyn 210—Mehefin, 1884.