Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

1 ^ífaill Ŵglttipig. IEUENCTYD Y BEIBL. IOSEPH. Ye ydym ni yn byw yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg ar ol Crist. Yr oedd Toseph yn byw yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg cyn Crist, mewn oes wahanol, gwlad wahanol, ac amgylchiadau gwahanol i ni. Mae hanes Ioseph, er hyny, yn cynnwys gwersi buddiol i bob mab ieuanc, a phob merch ieuanc yng Nghymru. Yr oedd yn meddu ar yr un teimladau a ninnau, ac yn cael ei demtio fel ninnau. Nid wyf yn awr yn amcanu dangos Ioseph fel yn llywydd ar wlad yr Aipht, yn gwneyd ei hun yn adna- bydduB i'w frodyr, yn derbyn ei dad a'i deulu ger bron Pharaoh, yn eu gosod yn uhir Gosen. Ioseph yn ddyn ieuanc yw ein testyn presennol, ac yn teimlo fod Duw bob amser gydag ef—yn ei weled, yn ei glywed, yn gwylio drosto, ac yn ei fendithio. Ioseph gartref, a Ioseph oddi cartref. Ioseph gartref, yn hoff blentyn ei dad. Ganwyd ef ym Mesopotamia, pan oedd ei dad yn bedwar ugain a deg oed. Bahel oedd ei fam. Pan yn hogyn chwech oed, dygwyd ef gyda'r fyntai i wlad Canaan, yn gyntaf i Sichem, ac yna i Hebron. Cafodd weled ei daid Isaac ar ol ei enedigaeth. Yr hanes cyntaf sydd genym am dano ydyw, pan oedd yn fachgen dwy ar bymtheg oed. "Ac Israel oedd hoffach ganddo Ioseph na'i holl feibion." Yr oedd yn fab ei henaint; yn fab o'i hoff wraig Rahel, a hithau wedi marw. Yr oedd yn deg o bryd, ac yn lân yr olwg. Nid oedd ammheuaeth chwaith ei fod, y pryd hwn, yn ofni Duw, yn cilio oddi wrth ddrygioni, ac yn parchu ei dad. Mae'r plant sydd yn caru yr Arglwydd, 209—Mai, 1884.