Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

| ÍjfaiII Ŵfllrcpig. IEUENCTYD Y BEIBL. ABIAH. Yr oll a gawn o hanes Abîah, mab Ieroboam, brenin Israel, a welir yn 1 Bren. xiv. Yr oedd Abiah yn glaf, ac yn glaf iawn. Yr oedd ei dad mewn pryder yn eì gylch. Yr oedd am gael gwybod beth a ddeuai o hono, pa un ai byw ai marw a wnelai. Efe a ddanfonodd ei wraig i Siloh i ymofyn â'r prophwyd Ahîah. Dywedodd wrthi am newid ei dillad, fel na wypai neb mai gwraig Ieroboam oedd hi. Nid oedd am i'r prophwyd wybod pwy ydoedd. Tybiai fod modd twyllo Ahi'ah, a chredai ar yr un pryd y medrai fynegu beth a ddarfyddai i'r bachgen. Daeth y wraig i dy y prophwyd, a'r gair cyntaf a glywodd hi oedd, " Tyred i mewu, gwraig Ieraboam: i ba beth yr wyt ti yn ym- ddyeithrioî canys myfi a anfonwyd atat ti â newyddion oaled." Wedi llefaru wrthiam ddrygioni acam ddiwedd Ieroboam a'i deulu, efe a ddywedodd am y bachgen Abîah, " Pan ddelo dy draed i'r ddinas, bydd marw y bachgen. A holl Israel a alarant am dano ef, ac a'i claddant ef: canys efe yn unig o Ieroboam a ddaw i'r bedd; o herwydd cael ynddo beth daionituag Arglwydd Dduw Israel yn nhy Ieroboam." Dyn ieuanc oedd Abîah. Gelwir ef yn •' fachgen." Yr oedd yn ddyn ieuanc duwiol. Gall ei fod yn fachgen siriol, talentog. o dymmer dda, a charüaidd tuag at ei gyfoedion. Ni byddai hyn oll yn ei wneuthur yn fachgen duwiol. Pan ddywedir am dano fod ynddo beth daioni tuag at Dduw, mae duwioldeb ei gymmeriad yn dyfod i'r golwg. Yr oedd yn ofhi Duw, yn ei addoli, ac yn cadw ei orchym- mynion. 0 na bai pob mab a merch yn cofio eu Creawdwr 208—^6W«, 1884.