Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

i (ÇlfatU êjjliügsij. IEÜENCTYD Y BEIBL. TIMOTHBÜS. Yr hyn a ddywed Sant Paul am Timothëus yn ei ieu- enctyd yw, "Ac i ti, er yn fachgen, wybod yr Ysgrythyr Lân, yr hon sydd yn abl i'th wneuthur di yn ddoeth i iachawdwriaeth trwy y ffydd sydd yng Nghrist Iesu." Yn agos i ddeunaw cant a hanner o flynyddau yn ol yr oedd gwr yn byw yn Lystra, dinas yn Lycaonia, talaeth o Asia Leiaf. Groegwr oedd y gwr, ni roddir ei enw; eithr efe a briododd wraig o Iuddewes, Eunice wrth ei henw. Yr oedd hi yn byw ar y pryd gyda'i nain Lois. Esgorodd Eunice ar fab, a galwodd ei enw ef Timothëus, yr hyn o'i gyfieithu yw, "Ofn Duw." Ni enwaedwyd arno, yn ol gorchymmyn Duw a defod yr Iuddewon, o blegid mai Groegwr oedd ei dad. Cafodd ei enwi heb ei enwaedu, megys yr enwir plant yn awr yn rhy fynych heb eu bed- yddio, a hyny o herwydd fod y tad a'r fam yn .methu cyd- weled. Mae yn bur debyg i'r fam gael dewis yr enw pan alwyd y plentyn yn Timothëus. Tybir fod ei dad wedi bwrw ymaith ddelwau Lystra, ac wedi dyfod yn broselyt y porth, yn addolwr y gwir Dduw, ond nad oedd wedi Uwyr gofieidio y grefydd Iuddewig. Ni sonir <îim am y tad ar ol hyn, a chesglir iddo farw pan oedd Timothëus yn blentyn. Nid llawer o Iuddewon oedd yn byw yn Lystra, o blegid nid oes hanes fod gànddynt synagog yno. Ond os nad oedd ganddynt synagog i ymgynnull ynddi, diammheu fod yno ryw fan, fel Philippi, île y byddent arferol o weddîo. 207—Mawrth, 1884.