Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

<$SfaiII Ä.glwj»t|: Y PARCH. GANON POWELL JONES. Yn Ue bod yr erthygl gyntaf yn y Cyfaill cyntaf yn 1884 ar un o Enwogion y Beibl, yr ydym mewn galar dwys yn rhoddi Ue i un o Enwogion yr Eglwys yng Nghymru, sef i'r enwog John Powell Jones,ficer Llantrisant. Efe oedd awdwr "Enwogion y Beibl" yn y Cyfaill Eglwysig, ac ysgrifenydd " Y Ddaiar a'i Thrigolion" cyn byny. Achwynai o herwydd gwaeledd a gwendid yn ystod y tymmor haf. Cadwodd ei dy am ychydig wythnosau, ac wedi bod ar ei wely am ychydig ddyddiau, casglwyd ef at ei dadau foreu ddydd Gwener, yr unfed ar hugain o Ragfyr, 1883, yn drigain oed. Ei eiriau olaf oeddynt, " Pallodd fy nghnawd a'm calon; ond nerth fy nghalon a'm rhan yw Üuw yn dragywydd." " Marw a wnelwyf o farwolaeth yr uniawn, a bydded fy niwedd fel yr eiddo yntau." Y dydd Gwener canlynol, claddwyd ef ym meddrod y teulu yn hen fynwent Lladgyfelach, ger llaw Abertawy. Gweinyddwyd ar yr achlysur gan ficer Llan- samlet a ficer Llyngyfelach. Gan nad oedd yr angladd yn un cyhoeddus, nid oedd ond ychydig geraint a chyfeill- ion yn tywallt dagrau wrth ei fedd. Ganwyd ef yn ardal Pontafddulais, sir Gaerfyrddin, Ebrill 24, 1823. Dygwyd ef i fyny yng Ngholeg Dewi Sant. Urddwyd ef yn ddiacon yu 1846, ac yn offeiriad y flwyddyn ganlyuol. Bu yn gurad ac yn beriglor Casllych- wyr am bedair blynedd ar bymtheg. Yn 1865, efe a symmudodd i blwyf mawr Llantrisant, yn sir Forganwg, lle y Uafuriodd yn ddiwyd am ddeunaw mlynedd, ac y gwnaeth waith mawr mewn adeiladu ysgoldai ae adnewyddu hen Eglwys y plwyf, heb son dim am ei waith ysbrydoL yr hwn ni ellir ei fesur. Cafodd ei benodi yn ganon Llandaf gan yr Esgob 011ivant, ac ar ol marwolaeth Canon 205—2onau>r, 1884.