Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

1 (ÇííaiII (ggluipifl. ENWOGION Y BEIBL. {Parhâd o dudalen 283.) Iacob yn Penuel (Gen. xxxii. 24—32. Yn Penuel yr ydym yn ei weled yn ymdrechu â gwr—yn cael nerth gyda Duw ac yn gorchfygu. Y prophwyd Hosea (xii. 3, i) a ddarlunia yr ymdrech ac a ddywed, " Yn ei nerth y cafodd allu gyda Duw, îe, cafodd nerth ar yr angel ac a orchfygodd; wylodd ac ymbiliodd ag ef." 1. " Iacob a adawyd ei hunan." Wrtho ei hun yr oedd yn yr ymdrech; ac wrthynt eu hunain—yn y dirgel—mae plant Duw yn benaf yn ymdrechu â'u Tad ac yn ennill eu buddugoliaethau. Wrtho ei hunan yr oedd Moses pan safodd ju yr adwy ym mynydd Sinai o flaen ei Dduw, ae y trodd ymaith ei lidiogrwydd rhag eu dinystrio hwynt." Salm cvi. 2, 3; Ecsod. xxxii. a xxxiii. Wrtho ei hun yr oedd Elias ar fynydd Carmel, pan yr ymostyngodd ar y ddaiar ac y gosododd ei wyneb rhwng ei liniau, a chan weddio a weddîodd am wlaw, ac mewn atebiad i'w " daer weddi" yr Arglwydd a roddodd wlaw. 1 Bren. xviii. 4; Iago v. 18. Ac wrtho ei hun yr oedd Pedr yn gweddio ar jien y ty pan y cafodd y weledigaeth, yr hon a'i dysgodd na alwai neb yn gyffredin neu afian, ond bod y Cenedloedd yn gyd-etifeddion â'r Iuddewon, ac yn gydgorff, ac yn gyd-gyfranogion o addewid Duw yng Nghrist trwy'r Efengy]. Actau x. 9—48; Ephes. iii. 6. A'n Harglwydd yn fynych a weddîai wrtho ei Hun. Efe a aeth i'r myn- ydd i weddîo, ac a barhaodd ar hyd y nos yn gweddio Duw, ac yn y boreu Efe a alwodd yr Apostoliou ato (Luc vi. 12—17); ac yng ugardd Gethsemane wrtho ei Hun yr oedd yn gweddîo ac y cafodd ei wrando yn yr hyn 20i—Rkagfyr, 1883.