Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

<$îfaill Ôglujpig. ENWOGION Y BEIBL. IACOB. (Parhâd o dudalen 255.) Gwbdi y weledigaeth a gafodd yn Bethel, ao wedi iddo addunedu yr adduned ac eoeiuio y golofo, Iacob a gododd ei draed, a gymmerth ei daith, ac a aeth i wlad meibion y dwyrain. Efe a "gododd ei draed " (felly mae'r geiriau yn yr Hebraeg, ac maent yo dangos nad oedd gan Iacob nac asyn na chamel i farchogaeth arno, ond mai ar ei draed yr oedd yn teithio), ac a ddaeth i Mesopotamia wrtho ei hun yn grwydryn tlawd i dy Bethuel, tad ei fam, ao at Laban, brawd eì fam. Yr oedd rhagluniaeth Duw yn gwylied drosto ac yn cyfeirio ei draed ar hyd ffordd ddisathr, yn y llwybr y bwriedid iddo gerdded; efe a gyrhaeddodd ben ei daith yn ddiogel, a dygwyd ef at dylwyth ty ei fam; a mawr oedd y llawenydd a gafwyd pan y gwybyddid pwy oedd, a chroesawyd ef yn wresog. Felly efe a benderfydodd aros gyda Laban ei ewythr, a ba yno, fel y myn rhai, ddeugain mlynedd, neu fel y tybia ereill gyda mwy o briodoldeb, ugain mlynedd; ond pa un ai ugain ai deugain mlynedd y bu ym Mesopotamia gyda Laban ei ewythr, yr oedd yn gyfnod hynod a phwysig yn ei fywyd. Yr oedd yno fel ffoadur am ei fywyd, yn dlawd ao yn helbulus ei amgylchiadau. A'r prophwyd Hosea a gyfeiria at hyn pan ddywed (pen. xii. 12), "Ffodd Iacob i wlad Syria. a gwasanaethodd Israel am wraig, ac am wraig y cadwodd ddefaid." Moses hefyd a gyfeiriodd at sefyllfa wael a thrafferthus Iacob yng ngwlad Syria, pan y goeododd y geiriau hyn yngngeneu y dyn a ddygai gawell blaenffrwyth y tir at yr offeiriad, " Syriad aí ddarfod am dano oedd fy nbad." Deut. xxvi. 5. 203—Tachwedd, 1883.