Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

| (Çíjailî Ẃgliüpig, ENWOGION Y BEIBL. IACOB. (Parhâd o dudalen 229.) Yn eÌD rhifyn diweddaf cymtnerasom fras olwg o fywyd Iacob, ond ceir ya ei haues ddygwyddiadau hyuod ag sydd yn gofyn oddi wrthym sylw manylach. Un o'r dygwyddiadau hyn oedd y breuddwyd a gafodd yn Luz, ac hanes yr hwu a adroddir yo Gen. xxviii. Yr oedd yn ffoi o dy ei dad; yr oedd yn dianc rhag llid Esau ei frawd; efe a ddygodd ymaith y fendith trwy dwyll, oud ei dad, er y twyll, a'i sicrhaodd hi iddo; efe a'i haduew- yddodd iddo cyn ei ollwng ymaith i fyned at dylwyth ei fam ym Mesopotamia. Felîy teimlai ìacob, er ei fod yn gorfod ffoi o dy ei dad, mai etifedd y fendith oedd; efe a ymadawodd ei hunau; nid oedd neb na dim ganddoond ei ffon; golwg wael ar etifedd yr addewidion. Nid yn y byd hwn oedd ei rao; üid yma oedd ei drysor; ac nid yma chwaith oedd ei galoD. Ehaid fod ei feddwl yn drallodus a'i deimladau yn helbulus, ond gallwn yn hawdd gredu fod ei ffydd yn cynnal ei ysbryd, ac yn sicrhau iddo, er fod pethau o'i amgylch yn dywyll a niwlog, ei fod mewn meddianto'r "fendith." Felly y daeth efe i Luz. Yr oedd yr haul yn machludo, ac efe a lettyodd yno dros nos; gorweddodd ar y ddaiar oer, a gosododd gareg cyn oered a'r ddaiar dan ei ben, ac a gysgodd; hynod iawn ! efe a gysgodd ! Mae hyn yn dangos, er gwaeled ei wedd, fod ganddo feddwl tawel. Mae rhai yn methu cysgu ar eu gweíy pluf; ond Iacob, yn gorwedd ar y ddaiar, a chareg dan ei ben, a gysgodd. Ac yn ei gwsg efe a freuddwydiodd, a rhyfedd y fath freudd- wyd ! Gwelodd "ysgol yn sefyll ar y ddaiar, a'i phen yn 202—Hydref, 1883.