Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

ÍÎJfaíII ŵjgluipig. ENWOGION Y BEIBL. (Parhâd o dudalen 200.) . IACOB. Un o blant y tònau oedd Iacob; mordaith arw a thym- mestlog oedd ei fywyd; gwelodd aml a blin gystuddiau; bu yn llifeiriant dyfroedd mawrion; ond Duw oedd ddyrchafydd ei ben; Efe a fu gydag ef yn ei holl yrfa, ac a'i dygodd yn y diwedd i dangnefedd; efe, mewn geiriau byr, a roddodd ddarluniad cywir o'i fywyd pan y dywed- odd wrth Pharaoh, " Ychydig a drwg fu dyddiau blynydd- oedd fy einioes;" ac wrth fendithio ei ddau ŵyr—meibion Ioseph — efe a gydnabu ddaioni Duw tuag ato, pan ddywedodd, " Y Duw, yr hwn a'm parotôdd er pan ydwyf ^yd y dydd hwn—yr angel, yr hwn a'm gwaredodd i oddi wrth bob drwg—a fendithiodd y llanciau." Efe a gafodd helbulon, ond yr oedd Duw gydag ef ynddynt, ac a'i gwaredodd ef allan o honynt, Mab Isaac a Rebecca oedd Iacob, ac yr oedd efe a'i frawd Esau yn efeilliaid. Bn ei fam yn hir yn ammhlant- adwy; bu felly am ugain mlynedd; ac o herwydd hyn ei gwr a weddîodd drosti, a gwraudawyd ei weddi: ei wraig a feichiogodd, a'r plant a ymwthiasant â'u gilydd yn y groth. Cythryblodd hyn y fam, a hi a ymofynodd â'r Ar- glwydd yn ei gylch, a hi a gafodd atebiad. Dywedodd yr Arglwydd wrthi fod dwy genedl yn ei chroth, ac y gwa- henid o'i bru ddau fath o bobl, ac y byddai y naill yn gryf- ach na'r llall, ac y gwasanaethai yr henaf yr ieuengaf. Y plant yn ymwthio yn y groth! Yr oedd hyn yn ffaith tynod; mae Sant Paul yn cyfeirio ati yn Rhuf. ix. 10—12, ac mae yn tynu gwers bwysig oddi wrthi; yn gymmaint ag y dywedwyd wrth y fam y gwasanaethai yr henaf yr 201—Medi, 1883.