Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

| (fífaill é$lw%zi$. ENWOGION Y BEIBL. (Parhâd o dudalen 173.) ISAAO. Un o'r pethau rhyfeddaf a mwyaf pwysig ym mywyd Isaac oedd y fendith â'r hon y bendithiodd efe trwy fíydd ei ddau fab, Iacob ac Esau, am bethau a fyddent. Ceir hanes am byn yn Genesis xxvii. Adroddir yno yn fanwl yr amgylchiadau o dan y rhai y cymmerodd le. Mae yr hanes yn ddirgelwch; mae yn anhawdd ei ddeall; ni cheir ei ystyr ar y wyneb; ond chwilio i mewn iddo gwelir ei fod yn gysson â gweithrediadau rhagluniaeth Duw o dan oruchwyliaethau ei ras tuag at ei bobl; ynddo gwelir, fel mewn drych, wendidau dynion da a duwiol, er eu bod yn meddiannu gwerthfawr ffydd etholedigion Duw, a dian- wadalwch cynghor Duw. Cynghor Duw yn sefyll, a'i amcan yn cael ei gyrhaeddyd yng nghanol ac er gwaethaf gwendidau ei bobl. Yr oedd ffydd Isaao yn ddiysgog yn yr addewid, ac eto yr oedd wedi ei amgylchu â gwendid ei ddynol anian; efe a hoffai ei fab Esau o blegid ei fod yn bwyta o'i helwriaeth ef; ei wendid ef oedd hyny; ac felly gan anghofio yr hyn yr oedd Duw wedi ei lefaru am ei feibion, sef y gwasan- aethai yr henaf yr ieuengaf, yr oedd yn bwriadu bendithio Esau ei gyntafanedig. Rhwystrwyd ef yn ei amcan; ben- dithiodd Iacob mewn camsynied yn lle Esau; ond wedi iddo wneuthur hyny a chanfod y camsyniad dywedodd am Iacob, "A bendigedig fydd efe." Yma gwelir mai nid o'i feddwl ei hun yr oedd Isaac yn bendithio, ónd bod Ysbryd Duw yn llefaru trwyddo; adyn hyn gwelwn natur ysbryd prophwydoliaeth. Yn fynych 200—A wst, 1883.