Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

(^gfaill (Bgluigaij. ENWOGION Y BEIBL. (Parhâd o dudalen 144.) ISAAC. Pethau cyffredin bywyd oeddynt bethau anghyffredin ym mywyd Isaac: geni, diddyfnu oddi wrth y fron, priodi, ac ennill plant ydynt bethau cyffredin, maent yn cymmeryd lle yn ol helynt y byd hwn; ond ym mywyd Isaac, fel y nodasom yn ein rhifyn diweddaf, y pethau hyn oeddynt bethau anghyffredin; Duw yn ei ragluniaeth a'u gwnaeth hwynt yn rhyfeddodau. Yr oedd bywyd Isaac yn llawn o helbul; gorthrymus a thrafferthus oedd. Efe a ymdeithiodd yn Nhir yr Addewid fel pererin mewn gwlad ddyeithr, a gaìlasai ddy- wedyd, fel y dywedodd ei fab Iacob wrth Pharaoh, mai "drwg fu dyddiau blynyddoedd ei ymdaith." Ond yr oedd yn ceisio gwlad well, hyny ydyw, un nefol; ac efe, trwy ffydd ac amynedd, a'i hetifeddodd. Ym mhlith drygau ereill a'i goddiweddodd oedd " newyn," sef prinder bara. Newyn yn Nhir yr Addewid ! dyna beth hynod; yr oedd yn brofedigaeth i Isaac; yr oedd iddo fel cwmwl yn gorchuddio'r heulwen, ond efe a'i dyoddefodd yn amyneddus; ni rwgnachodd; yn y dydd cymylog cadwodd ei afael yn yr addewid ac yn y dym- mestl, yr oedd ei angor yn ddiogel. Aeth y cwmwl heibio, tawelodd yr ystorm, tywynodd yr addewid fel llewyrch ar ol gwlaw, darfyddodd y newyn, a daeth llawnder i Isaac; efe a hauodd yn y tir ac a fedodd y " can cyramaint,? a'r Arglwydd a'i " bendithiodd," ac efe a " gynnyddodd ac a aeth rhagddo ac a dyfodd hyd oni aeth yn fawr iawn." Mae un brofedigaeth yn arwain i brofedigaeth arall; mae'r profedigaethau fel ton ar ol ton yn canlyn eu gilydd. 199—Gorphenaf, 1883.