Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

§ <$8JfaiU (Êflluiüsig ENWOGION Y BEIBL. (Parhâd o dudalen 115.) ISAAO. Dyn tawel a llonydd oedd Isaac; gwelir ei dymmer a'i gymmeriad pan ddywedir am dano pan y cyfarfu â Rebecca, ei fod wedi " myned allan i fyfyrio yn y maes ym min yr hwyr." Gen. xxiv. 63. Yr oedd yn caru llonydd- wch a bod wrtho ei hun. Nid oedd, fe ddichon, ei gym- meriad mor fawreddog ac urddasol ag eiddo ei dad Abra- ham, ac nid oedd ei fywyd mor drafferthus a phrofedig- aethus ag eiddo ei fab Iacob; ond yr oedd yn meddiannu yr un ffydd a hwythau, ac hefyd yn gydetifedd â hwynt o'r un addewid, ac yr oedd fel hwynt-hwy yn trigo mewn iluesttai yug Ngwlad yr Addewid fel mewn tir dyeithi", yn cyfaddef mai pererin oedd ar y ddaiar yn dysgwyl am wlad well a "diuas yr hou mae iddi sylfeini, saer ac adeil- adydd yr hon yw Duw." Ond ceir er hyny ddygwydd- iadau hynod yn hanes bywyd Isaac, ac ni a nodwn rai o honynt; ynddynt gwelir gwirioneddau pwysig ac addysg- iadau buddiol. 1. Yr oedd ei enedigaelh yn hynod. Ganwyd ef nid trwy rym natur, ond trwy'r addewid. Yr oedd ei dad yn ganmlwydd oed, a'i gorff wedi marweiddio pan y cenedl- wyd ef, a'i fam wedi heneiddio—pan yr oedd yn ddeng mlwydd a phedwar ugain—er " marweidd-dra ei bru"—a esgorodd arno. Ac yr oedd yn ei enedigaeth yn cyn- nrychioli holl had ysbrydol Abraham, feí y dywed yr íipostol yn Gal. iv. 28, Í(A ninnau, frodyr, megys yr oedd Isaac, ydym blant yr addewid." 2. Duw ei Hun a'i henwodd, ac yr oedd hyn yn hynod; ^fe a roddodd yr enw i'w dad eyn ei eni; Efe a ddywed- 398— Mehefin, 1883,