Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

t <$îfaiU ŵflluipig. ENWOGION Y BEIBL. MOSES. {Parhâd e dudalen 3.) Yb ydym wedi edrych ar Moses fel gwaredwr, fel deddf- roddwr, ae fel hanesydd; ac yr ydym yu awr yn dywedyd ym mhellach ei fod hefyd yn brophwyd. Pa beth a fedd- ylir wrth brophwyd a welir yo Ecsod iv. 16 a vii. 1. Yn un adnod dy wedir am Aaron, " Efe a fydd yn lle geneu i ti, a thithau a fyddi yn lle Duw iddo yntau;" ac yn yr adnod arall dywedir, "Gwel, mi a'th wnaethym yn Dduw i Pharaoh, ac Aaron dy frawd fydd ynbrophwyd i titbau." Felly wrth gymharu y ddwy adnod au gilydd gwelir fod Aaron yn " brophwyd" i Moses, o blegid ei fod " yn lle geneu iddo." Prophwyd gan hyny oedd un ag oedd "yn lle geneu " i Dduw i draddodi ei feddwl i'r byd. Yr oedd Moses yn brophwyd o'r radd uchaf. Nodir ei ragoriaeth ar brophwydi cyffredin yn Ecsod. xxxiii. 11; Num. xii. 6—8; Deut. xxxiv. 10. Yr Arglwydd a ddywedodd wrth Aaròn a Miriam (pan y llefarasant yn erbyn Moses ac y dywedasant, "Ai yn unig trwy Moses y llefarodd yr Ar- glwydd? oni lefarodd ef trwom ninnau hefyd?") mai ' mewn gweledigaeth yr ymhysbysai" i brophwyd cy- fFredin, neu "mewn breuddwyd y llefarai wrtho;" ond mai nid felly yr ymddygai at Moses. " Yr Arglwydd a lefarodd wrtho ef wyneb yng ngwyneb, fel y lîefarai gwr wrth ei gyfaill"—"geneu yng ngeneu "*—mewn gweled- iad, ac nid mewn dammegion; ac efe a gaffai y rhyddid a'r * Yn Num. xii. 8, yn yr Hebraeg, "geneu ÿpg ngeneù "yw y geiriaü, ac nid fel y cyfieithir hwynt yn y Beibl Cymraeg,-" ẁyheb yn wyneb," 194—Chwefror, 1883.