Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

(fgfaill Ŵglujpig, ENWOGION Y BEIBL. MOSES. {Parhâd 9 dudal. 312, Rhagfyr, 1882.) Yjr oedd Moses yn hanesydd, ac yr oedd yn hanesydd heb ei fath; ym mhlith haneswyr mae yn sefyll ar ei ben ei hun; yn eu mysg ni cheir ei gyffelyb. Mae yn dechreu ei haues gyda chreadigaeth y byd. Yn y bennod gyntaf o Lyfr Genesis mae yn adrodd yn fanwl y dull a'r modd y creodd Duw y nefoedd a'r ddaiar. Y wybodaeth o hyn efe a'i cafodd trwy ddadguddiad; mae'r apostol yn dangos [hyn yn Heb. xi. 3. " Wrth ffydd," meddai, "yr ydym yn deall wneuthur y bydoedd trwy air Duw, yn gymmaint nad o bethau gweledig y gwnaed y pethau a welir." Pan ddywed mai wrth ffydd yr ydym yn deall hyn dengys mai dwyfol ddadguddiad yw'r adroddiad am greadigaeth y byd yn y bennod gyntaf o Lyfr Genesis, o blegid nid oes ffydd yn yr ystyr y defnyddir y gair yn pennod xi. o'r Hebreaid, íle ni cheir gair Duw. Felly pan yr ydym yn derbyn hanes Moses am greadigaeth y byd yr ydym yn derbyn tystiolaeth ddwyfol—y dadguddiad a roddodd Duw iddo ef. Mae Moses wrth ddeohreu ei hanes gyda chreadigaeth y hyd yn dangos mai Creawdwr nefoedd a daiar oedd Duw Abraham, Isaac, a Iacob—y Duw a ddygodd Israel allan o'r Aipht, ac a wnaeth gyfammod â hwynt wrth fynydd Sinai. 'Yr oedd creadigaeth y byd yn ddirgelwch i athronwyr Groeg a Rhufain; ymresyment lawer yn ei gylch, ond ofer oeddynt yn eu tybiau; ni chyrhaeddasant wybodaeth o'r gwirionedd yn ei gylch. Ond Moses a daflodd oleuni ar y dirgelwch hwn, ao a ddangosodd y modd y daeth y bỳd i fodolaeth., 393—Ionawr, 1883.