Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

<$8faUl (grjliüptg. ENWOGION Y BEIBL. IOSÜAH. : (Parhâd o dudal. 284.) Címmerwyd Iericho gan losuah. Dau beth hynod a gym- merasant le mewn cyssylltiad â'i chwymp, y rhai a deil- yngant ein sylw neillduol. Un oedd achubiaeth Rahab y butain, a'r llall oedd pechod Achan. 1. Rahab a arbedwyd, ac arbedwyd hi am iddi dderbyn yr ysbiwyr yn heddychol; ac arbedwyd ei thad a'i mam, a'r cwbl a'r a feddai; ac yn Heb. xi. 31 priodolir ei harbed- iad i'w ffydd: " Trwy ffydd ni ddyfethwyd Rahab y butain gyda'r rhai ni chredent." Mae y geiriau a lefarodd wrth yr ysbiwyr yn dangos ei ffydd: hi a ddywedodd wrthynt, fel yr ydym yn darllen yn Tosuah ii. 9—11, ei bod wedi clywed am yr hyn yr oedd yr Arglwydd wedi wneuthur iddynt yn yr Aipht, wrth y Môr Coch, ac yn yr anialwch; ac yna chwanegodd, " Yr Arglwydd eich Duw, Efe sydd Dduw yn y nefoedd uchod ac ar y ddaiar isod." Pan ddywedodd hyn, dangosodd ei ffydd yn Nuw Israel; hi a roddodd brawf ei bod " yn credu ei fod, a'i fod yn wobr- wywr i'r rhai sydd yn ei geisio Ef." Yr Apostol Iago hefyd a gyfeiria at ei ffydd, ac a ddengys mai ffydd oedd a berffeithid trwy weithredoedd (ii. 20—26): "Rahab y butain, onid o weithredoedd y cyfiawnhawyd hi pan dder- byniodd hi y cenadon, a'u danfon y ffordd arall ?" Ac yn ffydd Rahab gwelir profion eglur trwy y gweithredoedd a gyflawnodd ei bod o'r un rhyw a " gwerthfawr ffydd ethol- edigion Duw." Derbyn yr ysbiwyr oedd y weithred a gyflawnodd, ao yn y weithred hon dangosodd ei ffydd. Ýmddidolodd oddi wrth ei phobl a'i chenedl, y rhai oedd- 180—Rhagfyr, 1881.