Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

<$ÍJfaiU (Bgluisjtg. ENWOGION Y BEIBL. IOSUAH. (Parhâd o dudal. 227.) Gwedi marw Moses, yr Arglwydd a ddywedodd wrth Iosuah, " Dos dros yr Iorddonen hon, ti a'r holl bobl hyn, i'r wlad yr ydwyf yn ei rhoddi iddynt." Yr oedd Iosuah yn awr i ddechreu ar ei waith, a'r cam cyntaf ag ydoedd i gymmeryd oedd arwain y bobl dros yr Iorddonen. Nid oedd anhawsderau mawrion yn hyn ac ystyried y peth ynddo ei hun; nid oedd yr Iorddouen yn afon lydan, ac nid oedd ei dyfroedd chwaith yn ddwfn; gwir ei bod ar y pryd yn llanw dros ei glauau, ond er hyny nid oedd ond afon gyffredin; ac nid oedd gelynion yn erlid ar ol y bobl Qeu yn eu gwrthsefyll wrth fyned drosodd. Gallasai dynion gwybodus mewn celfyddyd yn hawdd daflu pont o goed dros yr afon ac arwain y bobl drosti i Dir yr Addewid; ond yn yr anturiaeth gwelir buddugoliaeth ffydd ac uid goruchafiaeth celfyddyd a gwybodaeth. Yr oedd amcan a dyben yn y dull yr oedd Iosuah i arwain y bobl dros yr lorddonen; yr oedd i ddangos iddynt "fod Duw yn eu »ysg, a chan yru y gyrasai Efe y cenedloedd allan o'a Waen hwynt," i roddi iddynt y wlad a addawsai Efe i'w tadau: yr oedd yn brawf iddynt fod Duw gyda Iosuah fel y bu gyda Moses, ac na safai neb o'i flaen holl ddyddiau ei ŵnioes. Pelly, yn y dull yr arweiniwyd Israel dros yr Iorddonem, Duw a wnaeth ryfeddodau yn eu mysg ac a fawrhaodd losuah yng ngẃydd yr holl bobl. Yr oedd yr oll o Dduw; Efe oedd yn trefnu y cwbl; yr oedd pob symmudiad yn cytnmeryd lle yn ol ei orchymmyn a than ei gyfarwyddyd; 178—ffÿdref, 1881.