Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

| <$Sfaill ẃglrceaig ENWOGION Y BEIBL. IOSUAH. (Parhâd o dudal. 201.) Yb oedd cyffroad y bobl yn Cades Barnea yD gyfnod neill- duol yu haiies Iosuah; dygodd ef i amgylchiad cyfyng, ond efe a safodd y prawf; ei ffydd a'i daliodd ef i'r lan ac a'i cadwodd; trwyddi hi efe a orchfygodd ac a etifeddodd y tir. Yn nesaf sonir am Iosuah pan y gosodwyd ef gan Mos68 fel olynydd iddo ei huD yn fiaenor ar y bobl i fyned i tnewn ac allan o'u blaen hwynt. Moses a wnaeth hyn yn ol gorchymmyn Duw trwy arddodiad dwylaw, ac yr ydym yn darllen am y dygwyddiad yn Numeri xxvii. 12—23. " Yr Arglwydd a ddywedodd wrth Moses, Dring i'r myn- ydd Abarim hwn, a gwel y tir a roddais i feibion Israel. Ac wedi i ti ei weled, tithau a gesglir at dy bobl fel y caBglwyd Aaron dy frawd." A phan glybu Moses hyn, efe a ddywedodd, " Gosoded yr Arglwydd, Duw ysbrydion pob cnawd, un ar y gynnulleidfa, fel na byddont fel defaid ni byddo bugail arnynt." "A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, Cymmer atat Iosuah fab Nun, y gwr y mae yr ysbryd ynddo, a gosod dy law arno; a dod ef i sefyll ger bron Eleasar yr offeiriad, a cher bron yr holl gynnulleidfa; a dod orchymmyn iddo ef yn eu gŵydd hwynt. A dod o'th ogoniant di arno ef fel y gwrandawo holl gynnulleidfa meibion Israel arno." Gwnaeth Moses fel y Uefarasai yr Arglwydd wrtho; ac nid oedd arddodiad dwylaw Moses yn fath o ddefod wag ac ofergoelus, canys yr ydym yn darllen yn Deut. xxxiv. 9 fod " Iosuah fab Nun yn gyjflawn o ddoethineb, o herwydd Moses a roddasai ei ddwylaw arno." Arddodiad dwylaw oedd ddefod a arferid gan ein Har- glwydd a'i Apostolion: " Ein Harglwydd a roddes ei ddwy- 177—Medi, 1881.