Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

§ (fjrffaîll (gjjtuiöîug. ENWOGION Y BEIBL. (Parhââ o dudal. 172.) IOSUAH. Iosoah fab Nun, o lwyth Ephraim. oedd ddyn hynod yn ei oes. Yr oedd yn '•weinidog Moses" yn ei fywyd, ac wedi ei farwolaeth efe a'i canlynodd ef fel arweinydd a gwaredwr Israel. Efe oedd un o'r "henuriaid" y rhai j dywedir am danynt yn yr unfed bennod ar ddego'r Epistol at yr Hebreaid, iddynt trwy íFydd gael 4:gair da." "Gair da" a roddir i losuah o ddechreu ei hanes hyd ei ddiwedd; ym mhob dygwyddiad o'i fywyd ymddengys ei ífydd a'i dduwioldeb; o dan bob amgylchiad ac yng ngwyneb pob profedigaeth—yng nghanol ei gyfyngderau a'i anhawsderau —yr oedd ei galon yn ddisigl yn ymddiried yn yr Ar- glwydd: efe a ymgryfhaodd ac a ymwrolodd fel un yn gweled yr anweledig: y mynyddoedd a'r bryniau a ostyng- wyd o'i flaen, y gŵyr-geimion a wnaethpwyd yn uniawn, a'r geirwon yn ffyrdd gwastad. Yr Arglwydd ei Dduw oedd gydag ef, ac efe a ffynodd. Yr ydym yn darllen gyntaf am Tosuah yn Rephidim, pan ddaeth Amalec allan i ymladd ag Israel, Ecsod. xvii. 8—16. Nid oedd losuah y pryd hwn mewn cymhariaeth ond ieuanc, ond Moses a feddyliai mor uchel am ei alluoedd a'i wroldeb fel yr ymddiriedodd iddo y rhyfel. Efe a ddywedodd wrtho, •' Dewis wŷr, a dos allan ac ymladd ag Amalec." Moses ei hun a safodd ar ben y bryn â gwialen Duw yn ei law: pan godai Moses ei law, Israel a fyddai drechaf; ond pan ollyngai ei law i lawr, byddai Amalec drechaf. Dwylaw Moses oeddynt drymion, ond Aaron a Hur a'u cynnaliasant i fyny hyd fachlud haul. A Iosuah a orohfygodd Amalec a'i bobl. Yn ol gorchymmyn Duw, 176—Awst, 1881.