Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

fi <$gfaill ŵflliDgsig. ENWOGION Y BEIBL. SOLOMON. (Parhâd o dudal. 144.) Solomon a gyfododd adeiladau mawrion a chostus, ond y penaf o hoDynt oll oedd y deml. Yn yr hanes ysbrydol- edig rhoddir darluniau manwl o honi, ac adroddir yn hel- aeth yr amgylchiadau o dan y rhai yr adeiladwyd hi. Mae yn galw am ein hystyriaeth ddifrifol, a hi fydd testyn ein sylwadau yn ein rhifyn presennol. Fel y cafodd Moses bortreiad y tabernacl yn y mynydd, felly Dafydd a dderbyniodd mewn ysgrifen o law'r Ar- glwydd trwy'r Ysbryd bortreiad y deml. 1 Cron. xxviii. 12, 19. Fel y tabernacl felly y deml a adeiladwyd yn ol cynllun Duw. Cyfodwyd y tabernacl i fod " yn gyssegr fel y gallai Duw drigo ym mysg ei bobl," ac felly y deml a adeiladwyd yn "breswylfod" i Dduw, yn "drigle iddo i aros ynddo yn dragywydd." Gwedi i Moses gyfodi y taber- oacl a'i eneinio, " gogoniant yr Arglwydd a'i llanwodd, a thân a ddaeth allan oddi ger bron yr Arglwydd ac a ysodd y poethoffrwm a'r gwer ar yr allor." Ac felly wedi gor- phen y deml, ac wedi dwyn yr arch i mewn i'w Ue ei hun i'r gafell i'r cyssegr sancteiddiolaf o dan adenydd y cerub- iaid, tra yr oedd y Lefíaid—y cantorion a'r oerddorion—o <lu dwyrain yr allor â symbalau, â noblau, ac â thelynau, a'r offeiriaid ag udgyrn, megys un yn seinio ag un sain i glodfori ac i foliannu yr Arglwydd, "Gogoniant yr Ar- glwydd a lanwodd y ty." Ac wedi i Solomon orphen ei "eddi tân a ddisgynodd o'r nefoedd ac a ysodd y poeth- offirwm a'r ebyrth ar yr allor. Y gogoniant—y secina—* ^rigai, fel yn y tabemaol felly yii y deml, ac yn y naill fel 7 Uall y tân ag oedd yn ysu yr aberthau ar yr allor a ljí-Gorphenaf, 1881. ns