Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

I <$ífäill (Bjlujpig. ENWOGION Y BEIBL. SOLOMON. (Parhâd o dudal. 115.) Doethineb Solomon oedd testyn ein hysgrifen yn ein rhifyn diweddaf; ond yn hresennol ei gyfoeth a'i ogoniant a gânt ein sylw. Mewn doethineb a gwybodaeth ni bu ei fath o'i flaen, ac ni ehyfododd ei fath ar ei ol; ac a ewn cyfoeth a gogoniant nid oedd ei fath ym mysg y brenin- oedd yn ei buíl ddyddiau ef. Mawr oedd ei gyfoeth: uid oedd bri ar aur, ac yr oedd yr ariau mor amled a'r ceryg yn Ierwsalem yn ei ddyddiau ef. Rhoddid iddo o aur Seba: breuines Seba a ddygodd iddo ef chwe ugain talent o aur, yr hyn o'n harian ni oedd dros chwe can mil o bunnau. Llongau Hiram a'i longau ei hun a gludent iddo aur o Tarsis ac o Ophir. Pa le oedd Tarsis ac Ophir nid ydys yn gwybod, ond tebygol fod Tarsis yn y gorllewin, a bod y llongau yn hwylio yno dros Fôr y Canoldir; abod Ophir yn y deheu-ddwyreiniol, a bod y llongau yn hwylio yno dros y Môr Coch: tybir mai am yr aur a ddygai y llongau hyn y cyfeirir pan ddywedir y deuai i Solomon bob blwyddyn 666 o dalentau o aur, yr hyn oedd rhwng tair a phedair miliwn o bunnau o'n harian ni. Yr arian hyn a ddeuai iddo heb law yr hyn a gai efe gan y marchnatwyr ac o farsandiaeth y llysieuwyr, a chan holl freninoedd Arabia a thywysogion y wlad. Àc felly y llongau ar y môr a'r marchnatwyr ar y tir, breninoedd Arabia a thywysogion y gwledydd, a gludent olud i Solomon yn y fath gyflawnder fel y gellir dyweyd am dano yn ystyr llythyrenol y gair, iddo "ben- tym aur fel pridd, ac aur Ophir fel oeryg yr afonydd." à hìe mae cyfoeth, yno mae gogóniant a rhwysg; a mawr 174—Mehefin, 1881.