Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

<$SfaiII ŵfllurgsig. ENWOGION Y BEIBL. SOLOMON. (Parhâd o dudal. 88.) Pan yr eisteddodd Solomon ar orseddfainc ei freniniaeth, ac y cadarnhawyd y freuiniaeth yn ei law, efe a'r holl bobí aaethant i fyny i Gibeon i aberthu i'r Arglwydd. Gibeon oedd ddiuas yn llwyth Beuiamin, o ddeutu chwech milltir 0 Ierwsalem. Yr oedd arcb y cyfammod yn y babell a ddarparasai Dafydd iddi yn Ierwsalem, ond pabell y cyfarfod a'r allor bres, y rhai a wnaethai Moses yn yr anialwch, oeddynt yn Gibeon; ac yr oedd y Gibeoniaid, yn 01 gosodiad Iosuah (peunod ix. 27), yn "gymmynwyr coed ac yn wehinwyr dwfr i allor yr Arglwydd;" ac felly yr oedd Gibeon yn uchelfa farw. Yno yr aeth Solomon, ac a oífrymodd ar yr allor fil o aberthau. Felly y breuin ar ddechreuad ei deyrnasiad a geisiodd Dduw ei dadau, ac a'i haddolodd Ef. A'r Arglwydd a fu foddlawn iddo, ac a ymddangosodd iddo mewn breuddwyd liw nos, ac a ddy- wedodd wrtho, " Gofyn beth a roddaf i ti." A Solomon a ofynodd am galon ddeallus i farnu y bobl, ac i ddeall rhagor rhwng da a drwg. A'r peth a fu dda yng ngolwg yr Arglwydd; a Duw a ddywedoddwrtho, "Am na ofyn- aist am olud, cyfoeth, gogoniant, einioes dy elynion, na Uawer o ddyddiau, doethineb a gwybodaeth a roddwyd i ti; a golud, cyfoeth, a gogoniant a roddaf i ti tu hwnt i neb o'r brenínoedd a fu o'th flaen, ac a ddaw eto ar dy ol." Trwy fod ei ofyniad yn rhyngu bodd Duw, efe a gafodd fwy nag a ofynodd: ac felly Duw a wnaeth â Solomon yn ol ei arfer â'r rhai a ofnant ei enw. Duw a roddodd i Solomon ddoethineb a deall mawr iawn, a helaethmydd calon fel y tywod Bydd ar fin y môr. 173—MaL 1881.