Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

| dfííaill Ŵgliugsig. ENWOGION Y BEIBL. SOLOMON. {Parhâd o dudal. 60.) Dapydd cyn ei farwolaeth a benododd Solomon i eistedd ar ei orseddfainc. Yr oedd i Ddafydd feibion lawer, ond 0 honynt oll efe a ddewisodd Solomon i wisgo y goron; efe a wnaeth y dewisiad hwn nid o'i ewyllys ei hun ond o dan gyfarwyddyd Duw. Yr Arglwydd a hysbysodd iddo mai Solomon ei fab oedd i eistedd ar ei orseddfainc. Felly y dywedodd Dafydd wrth y bobl fel yr ydym yn darllen yn 1 Cron. xxviii. 5, "Ac o'm meibion," meddai, "efe a ddewisodd Solomon fy mab i eistedd ar orseddfa brenin- iaeth yr Arglwydd ar Israel." Ond er i Dafydd wneyd yn hysbys mai Solomon oedd, yn ol gair yr Arglwydd, i eistedd ar ei orseddfainc, eto ei fab Adoniah, yr hwn oedd henach na Solomon, a amcanodd ac a ymdrechodd gyr- haeddyd y goron; a gwnaeth hyny cyn marwolaeth ei dad. Efe a gymmerodd Ioab, tywysog y llu, ac Abiathar yr offeiriad i'w gyfrinach, ac a'u hennillodd hwynt i bleidio ei achos. Efe a wnaeth wledd, ac a wahoddodd holl feib- ion y brenin ond Solomon, a holl wŷr Iwdah, gweision y brenin ond Nathan y prophwyd, Benaiah, mab Iehoiada, a'i wŷr cedyrn, a Sadoc yr offeiriad; a'r gwahoddedigion a ddywedasant, "Bydded fyw y brenin Adonîah." Ond Bathseba, mam Solomon, a aeth i mewn at y brenin, ar gais Nathan y prophwyd, i hysbysu iddo yr hyn oedd Adoniah wedi wneuthur, ac i'w adgoüo ef o'r llw a âyngodd efe wrthi mai ei mab Solomon oédd i deyrnasu ar ei orseddfainc. Y brenin a dderbyniodd ei gwyueb, ac a adnewyddodd iddi ei lw. Efe a alwódd ato Sadoc yí offeiriad, Nathan y prophwyd, a Benaiah, mab Iehoiada, 172—Bbrül, 1881.