Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

f Öpgjfatn (Sjluipij. ENWOGION Y BEIBL. (Parhâd o dudal. 33.) SOLOMON. Gwedi marw Dafydd, Solomon ei fab a deyrnasodd ar ei ol ef. Mae i Solomon safle uchel ym mhlith enwogion y Beibl. Perthyn iddo enwogrwydd arbenig: hynodion ei gymmeriad a'r gweithredoedd a gyflawnodd yn ei ddydd a deilyngant ein sylw neillduol. Yr oedd amgylchiadau ei enedigaeth yn hynod: ceir hanes am danynt yn 2 Sam. xii. 24, 25, lle dywedir, "A Dafydd a gysurodd Bathseba ei wraig . . a hi a ymddug fab, ac efe a alwodd ei enw ef Solomon. A'r Arglwydd a'i carodd ef. Ac efe a anfonodd trwy law Nathan y prophwyd; ac efe a alwodd ei enw ef Iedidiah, o blegid yr Arglwydd." Hefyd, wrth farw, Dafydd a hysbysodd i Solomon i Dduwsicrhau iddo, pan y ganwyd ef, mai efe o'i holl feibion oedd yr un a ddewisid i eistedd ar ei orseddfainc, ac i adeüadu Ty yr Arglwydd. Gwelir hyn yn 1 Cron. xxii. 9, 10, lle yr adrodda Dafydd wrth Solomon eiriau Duw, y rhai sydd fel y canlyn:—" Wele, mab a enir i ti; efe a fydd wr llon- ydd, a Mi a roddaf lonyddwch iddo ef gan ei elynion o amgylch: canys Solomon fydd ei enwT ef, heddwch hefyd a thangnefedd a roddaf i Israel yn ei ddyddiau ef. Efe a adeilada dy i'm henw, ac efe a fydd yn fab i Mi, a minnau yn dad iddo yntau; sicrhâf hefyd orseddfa ei freniniaeth ef ar Israel byth." Yr hyn sydd hynod yma ydyw i'r pethaa rhyfeddol hyn gael eu dywedyd am fab a anwyd i Dafydd o Bathseba ei wraig—hi ydoedd wraig Urîas yr Hethiad, yr hwn a laddodd Dafydd er ei mwyn â chleddyf meibion Ammon, ac â hi y cyflawnodd efe y pechod a ddygodd wialen i'w dy, yr hon a arosodd yno hefyd hyd m—Mawrth, 1881.