Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

| (Çlfaitl (ftglugBiji. ENWOGION Y BEIBL. DAFTDD. (Parhâd o dudal. 3.) Yr ydym wedi ystyried Dafydd mewn gwahanol olygiadau, ac yr ydym wedi gweled ei fod yn ddyn hyucd yn ei oes. Yr oedd yn brydydd heb ei ail, yn gerddor campuB, yn rhyfelwr dewr, yn gadfridog galluog. yn lywodraethwr doeth a chyfiawD, ac uwch iaw y cwbl yr oedd yn adnabod Duw, yn ofni ei enw, ac yn ymddiried yn ei air. Ac efe a wnaeth rymusder yn ei dydd; efe a ennillodd fuddugol- iaethau mawrion, ac a ddarostyngodd genedloedd cedyrn; efe a sefydlodd deyrnas yn Israel, ac a sefydlodd y goron yn Iwdah; efe a ennillodd amddiffynfa S'ion, ac a wnaeth Ierwsalem yn brifddinas ei lywodraeth ac yn eisteddle ei deyrnas; efe a ddygodd yuo yr arch, i'r babell a barotoisai efe iddi; efe a wnaeth ddarpariadau helaeth gyferbyu ag adeiladiad y deml; efe a drefnodd ei holl wasanaeth, ac a roddodd i Solomon ei fab y portreiad o honi a gafodd trwy yr Ysbryd oddi wrth yr Arglwydd. 2 Cron. xxviii. 19. Efe a bechodd, mae yn wir, a mawr oedd ei bechod; mawr hefyd oedd ei gerydd, a mawr ei edifeirwch, ac ni bu farw: tynwyd ymaith ei bechod, ond arosodd ei ffrwythau yn y teulu. Ffrwythau chwerwon oeddynt, a gorfu iddo fwyta o honynt hyd ddydd ei farwolaeth. Ond heb law yr ystyriaethau hyn, mae i Dafydd ei safle neillduol—priodol iddo ei hun yn unig—yn hanes ei genedl. Yr oedd mewn ystyr arbenig fel brenin yn teyrnasu ar fynydd Sion yn gysgod o Grist, yr hwn, o ran y cnawd, oedd " Fab Dafydd." Dafydd, trwy y deyrnas a sylfaenodd a'r addoliad dwyfol a sefydlodd ar fynydd Sion, a chwanegodd fywyd a grym newydd i ddeddfau 170—Chwefror, 1881.