Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

^jfäUl Ôjlujpij. ENWOGION Y BEIBL. DAFYDD. (Parhâd o dudal. 312, Rhagfyr, 1880.) Yb ydym wedi edrych ar Dafydd yn ei Iwyddiant ac yn ei gwymp; pan ddyrchafwyd ef yn uchel efe'a syrthiodd; pechodd yn erbyn yr Arglwydd; ceryddwyd ef o'i her- wydd; efe a edifarhaodd. Yr oedd y pechod yn fawr; yr oedd y gerydd yn chwerw; ac yr oedd yr edifeirwch yn drwyadl. Ac felly Dafydd ar ol pechu, ac o dan y gerydd yn edifarhau, fydd testyn ein myfyrdod yn ein sylwadau presennol. Rhai llysiau, po fwyaf y sathrir hwynt, cryfaf i gyd fydd eu harogl; felly y duwiol, po fwyaf y profír ef, mwyaf eglur y gwelir gwirionedd ei ras. Chwerw oedd y driniaeth a gafodd Dafydd; yr oedd tu hwnt i'r cyffredin; a mawr oedd y gras a ddangosodd oddi tani; yr oedd ei berarogl tu hwnt i'r cyffredin; fel yr oedd y gerydd yn fawr, mawr hefyd oedd yr effeithiau a weithiodd. Nid dyn cyffredin oedd Dafydd ; nid bugail, nid pryd- ydd, nid cerddor, nid rhyfelwr, nid brenin cyffredin oedd; nid pechod cyffredin oedd ei bechod, nid cerydd cyffredin oedd ei gerydd, ac nid edifeirwch cyffredin oedd ei edifeir- wch. A'r salmau a gyfansoddodd pan o dan law geryddol ei Dduw ydynt ddwy ran, ym mha rai y gwelir yn eglur edifeirwoh ei galon; ac yn enwedig felly Salm li. Nid esgusodai ei bechod; nid oedd ganddo yr un esgus drosto, ao nid ymdrechai g'ael yr un. Fel y gwahanglwyfus, yr hwn yr oedd cauad ar ei wefus uchaf, a'r hwn a lefai "Aflan, aflan," felly Dafydd yn ei edifeirwch oedd fud, ac nid agorai ei eneu. Nid oedd ganddo ddim i ddywedyd drosto ei hun, ond llefai •'Peehais." Addefai ei bechod, a'i anwiredd ni chuddiai; cyffesai yn ei erbyn ei hun ei 169—-Ionator, 1881.