Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

<Í2|aUl <8alropifl. ENWOGION Y BEIBL. DAFYDD. (Parhâd o dudal. 284.) Pan yr oedd Dafydd wedi cyrhaedd pinael anrhydedd a Uwyddiant—wedi eoroni ei holl anturiaethau—efe a syrthiodd, a'i gwymp a fu fawr. Efe a ddrylliodd ei esgyrn, a rhyfedd yw iddo ddianc gyda'i fywyd. Yr oedd wedi ennill buddugoliaethau mawrion, ac wedi darostwng cenedloedd cedyrn, ac yr oedd yn awr yn rhyfela â'r olaf o'r cenedloedd hyn, sef meibion Ammon. Yr oedd Ioab, tywysog y 11 u, a holl Israel yn gwarchae ar Eabbah, un o'u dinasoedd hwynt; ond Dafydd ei hun a arosodd yn Ierwsalem. Dyma yr amser y cyfiawnodd efe y pechod a ddygodd gwmwl drosto am weddill ei oes. Yr oedd yn trigo yn dawel a llonydd yn ei dy; wrth gymmeryd ei esmwythdra collodd ysbryd gwyliadwriaeth, fel Samson " yn cysgu ar liniau Dalilah," felly yntau yn y mwynhâd o foethau ei balas a syrthiodd i drymgwsg pechod; ac fel y oollodd Samson yn ei gwsg " saith gudyn ei ben," yn y rhai yr oedd ei "fawr gryfder," ac yr "ymadawodd ei nerth oddi wrtho;" felly Dafydd, pan yn hepian o dan swyn esmwythdra bydol a diofalwch cnawdol, a ysbeiliwyd o'i arfogaeth ysbrydol; a phan y gwnaethpwyd ymosodiad arno, efe a orchfygwyd yn rhwydd ac yn ddiarwybod iddo ei hun, a syrthiodd yn ysglyfaeth i law y gelyn. Taenwyd y fagl ar ei fedr, a daliwyd ei droed ynddi. Ar brydnawngwaifch efe a gyfododd oddi ar ei wely, ac a rŵdiodd ar nen ei dy; ac oddi yno efe a welodd, ac yna ohwennychodd, ac wedi hyny a bechodd, ac wedi pechu ym- galedodd ac ymdrechodd guddio ei bechod, ao yn yr ym- Srech ni phetrusodd drochi ei ddwylaw mewn gwaed. Chwant y Uygad a gyffrôdd y cnawd, a chwant y cnawd a 168—Rhagfyr, 1880.