Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

I <$g|aiU ŵglrcgaifl. ENWOGION Y BEIBL. DAFYDD. (Parhâd o dudal. 227.) Yb ydym eisoes, mewn rhifyn blaenorol, wedi galw sylw at gymmeriad personol Dafydd. Yn bresennol ystyriwn ei gymmeriad cyhoeddus. Ymdrechwn ddangos y safle a roddir iddo yn hanes ei genedl. Yn gyntaf, efe a waredodd Israel oddi wrth eu gelynion, y rhai a'u gorthryment. ac a ddarostyngodd genedloedd mawrion a chedyrn ag oeddynt o'u hamgylch. Efe, trwy ei ryfeloedd a'i fuddugoliaethau, a ddyrchafodd ei wlad mewn bri ac anrhydedd ym mhlith cenedloedd y ddaiar. Gwedi ei eneinio yn frenin ar " holl Israel a Iwdah " yn Hebron, efe a'i wŷr a aethant yn erbyn Ierwsalem, yr hon oedd ym meddiant y Iebusiaid, preswylwyr y wlad. "Amddiffynfa Sion," yr hon oedd o'i mewn, oedd gadarn; ond fe'i hennillodd hi, ac a drigodd ynddi, ac a'i galwodd yn " Ddinas Dafydd." 0 hyny allan efe a wnaeth Ierwsalem yn eisteddle ei lywodraeth, ac yn brif ddinas ei deyrnas. Y Philistiaid oeddynt genedl nerthoì, cadarn mewn rhyfeL Bu rhyfeloedd gwaedlyd rhyngddynt ag Israel, ac yn fynych byddent yn fuddugoliaethus: difrodent a gorthryment y wlad; ae yn y rhyfel olaf rhynddynt a Saul, cawsant gyâawn fuddugoliaeth ar Israel. Saul a'i dri mab a syrthiasant yn archolledig, ac a fuont farw; a'r Philistiaid a ddaethant ac a drigasant mewn parthau o'r wlad. Ac wedi i Dafydd esgyn i'r orsedd bu rhyfeloedd rhyngddo yntau a hwynt; ac efe a'u llwyr orchfygodd, ac a'u gyrodd allan o derfynau Israel. Y frwydr gyntaf rhyngddynt a gymmerodd le yn nyffryn Bephaim, ger llaw Ierwsalem. Dafydd, wedi ymgynghori â'r Arglwydd, ac wedi cael gorchymmyn i fyned allan i'w herbyn, a'u taraw- 1G7—Tachwedd, 1880.